GDPR Cookie Consent by Free Privacy Policy

Dydy hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais - Edrychwch ar ein cyrsiau ar gyfer mynediad mis Medi 2019.

WGU Logo
WGU ten years
Ymgynghoriaeth Chwaraeon a Phrofion Perfformiad

Ymgynghoriaeth Chwaraeon a Phrofion Perfformiad

A ydych chi'n dîm chwaraeon proffesiynol sy'n dymuno dadansoddi datblygiad eich perfformiad?

A ydych chi wedi gosod nod bersonol uchelgeisiol i gwblhau ras 10k neu hyd yn oed redeg marathon?

​Caiff tîm arbenigol yr Ymgynghoriaeth Chwaraeon a Phrofion Perfformiad ei arwain gan yr ymgynghorydd Chelsea Moore, gan weithio o fewn y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd.

Maent yn cynnig ystod o wasanaethau ar gyfer athletwyr, hyfforddwyr ac unigolion amatur/dechreuwyr er mwyn cefnogi a datblygu perfformiad chwaraeon, iechyd, ymarfer corff a maeth ymhellach. 

Sesiynau wythnosol ar gael i'w harchebu bob dydd Mercher o 9am - 6pm.

Catalog Profion Perfformiad:

  • Prawf VO2max: £100
  • Prawf VO2max gydag adroddiad £120
  • Prawf trothwy lactad: £110
  • Prawf trothwy lactad gydag adroddiad: £130
  • Asesiad braster y corff: £35
  • Dadansoddiad dietegol: £60
  • Cynllun diet ysgrifenedig: £60
  • Proffil lipid gwaed: £35
  • Asesiad sgrinio iechyd llawn: £90

ARCHEBU PRAWF PERFFORMIAD

Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn â'r profion sydd ar gael neu hoffech drafod eich cynllun perfformiad mewn mwy o fanylder gydag un o'n harbenigwyr, cysylltwch â performance@glyndwr.ac.uk

Top