GDPR Cookie Consent by Free Privacy Policy

Dydy hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais - Edrychwch ar ein cyrsiau ar gyfer mynediad mis Medi 2019.

WGU Logo
WGU ten years
fintech header

Canolfan Arloesi Fintech

Mae FinTech (Technoleg Ariannol) yn faes trawsddisgyblaethol sydd yn cyfuno Rheolaeth Ariannol, Technolegol ac Arloesi. Bu FinTech yn un o’r grymoedd chwyldroadol y tu ôl i’r trawsnewidiad a welwyd mewn gwasanaethau ariannol a chyflwyno cyfleustra i bobl ar draws y byd. Yn 2017 roedd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn falch o lansio Rhaglen Rheolaeth Dechnegol i israddedigion, y cyntaf o’i math yn y DU.

Wedi ei lleoli yng nghanol ein campws yn Wrecsam, nod Canolfan Arloesi FinTech yw gwella gallu Cymru i fod yn ganolfan FinTech rhyngwladol ac arweiniol yn y byd. Bydd y Ganolfa yn cynnal ymchwil gwaith, gwaith ymgynghori a phrosiectau hyfforddi ar gyfer y diwydiant ym maes FinTech, yn darparu cymorth i fusnesau newydd, hwyluso cyfnewidfeydd ymysg arbenigwyr lleol ac o dramor, a chynnig addysg FinTech i fyfyrwyr, personél ariannol a’r cyhoedd.  

Top