
Rhestr Chwarae'r Eurovision
Graddiodd Jamie mewn Darlledu, Newyddiaduriaeth a’r Cyfryngau Chyfathrebu ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam ac ar hyn o bryd mae’n paratoi ar gyfer ei ‘wyliau gweithio’ yn Lisbon, ble bydd yn adrodd ar rownd gynderfynol Cystadleuaeth Cân yr Eurovision.
Mae wedi cytuno i ddod â’r diweddaraf atom ar holl ddireidi’r Eurovision gyda chyfres o flogiau pan fydd yno, ond yn gyntaf, ac yn garedig iawn, dyma ei awgrymiadau ar bwy allai fod â siawns dda o ennill.
Israel: Netta - Toy
Ffefryn y bwcis ers sawl wythnos bellach. Mae Israel wedi ennill y gystadleuaeth ar dri achlysur. Y tro olaf iddynt ennill oedd yn 1998 pan gynhaliwyd y gystadleuaeth ym Mirmingham. Dana International oedd yn fuddugol. Mae gen i ryw deimlad na wnaiff Netta ennill ac y bydd tro yn y sgript yn ystod wythnos yr Eurovision. Yr Eidal oedd y ffefryn y llynedd am fisoedd cyn Kyiv 2017. Aeth y fideo yn feirysol diolch i tsimpansî oedd yn medru dawnsio, Eurovision pur. Yna daeth hi’n amser y rownd gynderfynol a Salvador Sobral o Bortiwgal enillodd galonnau cymuned yr Eurovision. Mae’n dal i fod yn ddyddiau cynnar ond rwy’n siŵr y bydd Israel yn gorffen mewn safle da, ond ai nhw ddaw i’r brig?
Bwlgaria: Equinox - Bones
Mae Bwlgaria wedi perfformio’n gryf yn yr Eurovision ers sawl blwyddyn bellach. Maen nhw ar dân isio ennill. Daethant yn ail y llynedd gyda Kristian Kostov ac maen nhw’n dal i chwilio am y blas cyntaf yna o orfoledd yr Eurovision. Mae Equinox i’w gweld yn grŵp poblogaidd cyn dechrau’r gystadleuaeth ac mae’r gân yn wahanol i’r 42 arall sy’n cystadlu.
Gweriniaeth Tsiec: Mikolas Josef - Lie To Me
Gwlad arall sydd eto i’w coroni’n enillwyr yr Eurovision. Dyma fy ffefryn ohonyn nhw i gyd ar hyn o bryd (nid am fy mod i am fynd i Prague flwyddyn nesaf, dim o gwbl😉). Mae gan Mikolas siawns dda iawn o lwyddo ac mi fydd fy mhleidlais i yn mynd iddo ef pan ddaw hi’n amser y ‘grand finale’. Safle gorau Gweriniaeth Tseic yw 25ain yn rownd derfynol 2016 ac mi fydd eu cynrychiolwyr am wella hynny gan 25 lle pan ddaw hi’n Fai 12fed.
Awstralia: Jessica Mauboy - We Got Love
Yn draddodiadol, mewn cân fuddugol yr Eurovision mae yna elfen o ramant a chariad a dyma’n union beth sydd gan Jessica Mauboy ar ein cyfer ni. Mae Awstralia yn cystadlu...yn Ewrop...am y bedwaredd flwyddyn, ac maen nhw wedi bod yn ymgeiswyr cryf ers eu hymddangosiad cyntaf yn 2015. Daethant yn ail yn 2016, ac mae’n bosib y gwnân nhw gipio calonnau’r Eurovision ar noson y rownd derfynol yn Lisbon. Mae Awstralia wedi symud yn ara’ deg i fyny tabl y bwci ac os mai nhw ddaw’n fuddugol mi fyddan nhw’n cael dewis pa wlad sydd i lwyfannu’r gystadleuaeth flwyddyn nesaf. Mae ‘na siawns felly y daw hi i wlad y tri llew 😉.
Norwy: Alexander Rybak - That's How You Write A Song
Efallai ichi gofio Alexander o gystadleuaeth 2009 pan enillodd ym Moscow gyda ‘Fairytale’. Wnes i erioed feddwl y byddai Mr Rybak yn dychwelyd i lwyfan yr Eurovision naw mlynedd yn ddiweddarach mewn ymgais i’w hennill hi eto. Lena o’r Almaen enillodd y gystadleuaeth yn 2010 gan gynrychioli ei gwlad am yr eildro yn 2011 mewn ymgais i gadw ei gafael ar y goron, ond methu bu ei hanes. Ac yn anffodus dydw i ddim yn credu y bydd ffidil Alexander yn argyhoeddi gweddill Ewrop...ac Awstralia. Ond â dweud hynny mae hi’n chwip o gân ac mae’r llwyfannu’n rhyfeddol!