GDPR Cookie Consent by Free Privacy Policy

Edrychwch ar ein cyrsiau bywiog ar gyfer mynediad mis Medi 2020.

WGU Logo
WGU ten years
David Honeywell

Poenau carcharu

Bydd David Honeywell, cyn-garcharwr sydd bellach yn academydd, yn rhoi cyflwyniad rhyngweithiol gydag academyddion ar radd Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol Glyndŵr ar 10 Gorffennaf.

Bydden nhw’n archwilio ‘poenau carchariad’ - dywediad a ddefnyddiwyd yn gyntaf mewn clasur troseddeg o’r 1950au yn astudio profiadau carcharorion; pwnc sydd llawer mwy perthnasol heddiw, yn ôl David.

Gallwch esbonio rhywfaint am eich profiadau?

Fel cyn-garcharwr sydd nawr yn academydd, rwyf wedi profi poenau carchariad yn uniongyrchol. Ond mae pob unigolyn yn profi llawer o’r poenau hyn yn wahanol. I rai, mae diwrnod mewn carchar yn sicrhau na fydden nhw byth yn dychwelyd; nid yw rhai byth yn dysgu, ond i eraill mae carchar yn well na byw ar y strydoedd neu mewn cartrefi camdriniol.

Dydw i ddim yn siarad dros bobl eraill sydd wedi profi cyfundrefnau llawer mwy hallt, dedfrydau hirach a bywydau anoddach na fi ond mi alla i gyfleu beth rwyf wedi dysgu ganddynt.  

Un o ‘boenau carchariad’ wnes i ei brofi dros 30 mlynedd yn ôl oedd ‘slopping out’ - rhywbeth na fyddai’r rhan fwyaf o garcharorion wedi profi - fel dw i’n son amdano yn fy hunangofiant, Never Ending Circles.

[…] Roeddwn i'n gallu gweld rhesi o ddynion mewn crysau T a denims glas, yn llusgo’n hunain dros ben grisiau. Roedd yn 6.30yb. Roeddwn i’n gallu gweld eu bod nhw i gyd yn cario potiau siambr plastig i dywallt gwastraff neithiwr allan. Yn eu dwylo eraill, roedd bowlenni i gasglu dŵr i olchi eu dwylo a’u hwynebau, a jygiau plastig gwyn i gasglu dŵr yfed. Yn y dyddiau hynny, doedd gennym ni ddim toiledau a basnau ymolchi yn y celloedd, felly roedd yn rhaid i ni fynd i’r toiled mewn potiau siambr blastig. Tair gwaith y diwrnod, cawsom ni’n datgloi i gael gwared â’r gwastraff mewn defod ddyddiol o’r enw ‘lwtshan allan’, lle’r byddwn ni’n gwagio’n potiau mewn i sinciau mawr mewn ardal cilfa ar waelod pob pen grisiau.

Roedd pobl yn flin, achos roedd yn rhy gynnar yn y bore i gael eich deffro gan olau llachar a bang ar y drws, wedyn swyddog yn gwaeddu “Slop out!”.

Roedd yna un toiled yn y gilfa ac os oeddech chi’n gallu cyrraedd yna cyn i rywun arall curo chi yna, wnaethoch chi’r mwyaf o’r cyfle. Wnes i erioed meddwl y gall defnyddio toiled fod yn foeth, ond ar adegau fel hynna sylweddolais i gymaint wnes i gymryd yn ganiataol yn fy mywyd. Roedd un anfantais i’r toiled, sef fod drws y cuddygl ond yn uchder gwasg, felly tra roedd pawb wedi’u gwthio fewn i’r gilfa’n slopio allan, redden nhw’n gallu gweld y person oedd yn eistedd yn y toiled.

Ond roeddem ni gyd wedi arfer â pheidio cael unrhyw fath o breifatrwydd, roedd rhaid i ni wneud ein busnes yn ein celloedd, roedd parch cilyddol gennym.

Roddem ni bob tro’n rhoi gymaint o breifatrwydd i’n gilydd ag oedd yn bosibl.

Pan roedd rhaid i mi swatio dros bot yn fy nghell, byddai fy nghyd-garcharwr yn darllen papur newydd neu os oedd o’n yn gorwedd ar ei wely, bydda’n troi ei wyneb at y wal.

Doedd gennym ni ddim toiledau yn y dyddiau yna achos carchar Fictorianaidd oedd Durham nad oedd wedi’i gynllunio i’w gael. 

Cyhoeddwyd Cymdeithas Garcharorion gan Graham Sykes, o le daeth y dyfyniad ‘poenau carcharu’, ym 1958. Faint sydd wedi newid mewn hanner ganrif?

Does dim wedi newid - heblaw bod carcharorion yn wynebu poenau gwahanol. Er enghraifft, dydyn nhw ddim yn ‘slopio allan’ bellach, ond mae yna broblem cyffuriau enfawr nad oedd yn bodoli yn fy nyddiau cynnar yn y carchar yn yr 80au, ond ymddangosodd y broblem yn ystod fy nedfryd gyntaf yn y 90au.

Mae rhai poenau’r un peth, fell colli rhyddid ac ymreolaeth - mae colli’ch rhyddid a ffaith na allwch chi wneud beth rydych chi eisiau’i wneud yn cael yr un effaith emosiynol ag erioed.

Mae’r cyhoedd dal eisiau dial ac eisiau gweld rhywun yn cael ei gosbi. Mae gennym, ddull cosbol iawn tuag at gosb - mae’r poenau'r un mor berthnasol heddiw ag roedden nhw dros 50 mlynedd yn ôl. 

Mae’r cyfryngau yn rhoi argraff fod carchardai modern yn debyg i wersylloedd gwyliau - ydi hyn yn gywir?

Hefo mwy o hunanladdiadau, lladdiadau, camddefnyddio cyffuriau, ymosodiadau rhywiol a bwlio mewn carchardai heddiw nag erioed, ysgwn i ba fath o wersylloedd gwyliau mae’r newyddiadurwyr wedi ymweld â nhw.

Creuwyd y syniad gan luniau wedi’u smyglo allan gan garcharorion ohonynt yn partio mewn carchardai agored, sydd allweddol i'r myth yma. Nid yw carchardai agored yn hyrwyddo partio, ond maen nhw yn llai cyfyngol na charchardai cadarn.

Treuliais amser mewn un. Ia, roedd yna bartis gan roeddem yn gallu cerdded o gwmpas yn rhydd a mynd i mewn ac allan o gelloedd ein gilydd. Roedd gennym allweddi i’n drysau ac mae carchardai’n llefydd eithriadol o ddiflas, ond roedd set o ‘boenau carcharu’ hefo naws eu hunain.

Er enghraifft, mae carchardai agored wedi’u seilio ar ymddiriedaeth - nid oes unrhyw ffensys hefo gwifren rasel a ni chewch eich cloi mewn celloedd. Ond, os ydych yn dewis dianc, cewch eich cloi mewn carchar cadarn am weddill eich dedfryd.

Am yr Awdur

David Honeywell

David Honeywell

Cychwynnodd Dr David Honeywell ei addysg yn ystod dedfryd carchar o pum mlynedd yn y 1990au cyn ddod yn ddarlithydd Troseddeg ym Mhrifysgol Durham. Cychwynnodd ei yrfa ym Mhrifysgol Efrog ym 2013 ynghyd â PhD am Gyn-garcharorion a’r thrawsnewidiad o’r huan trwy addysg uwch, a chafodd ei wobwryo ym 2018.

Top