GDPR Cookie Consent by Free Privacy Policy

Campws Diogel Rhag Coronafeirws: Gwybodaeth ar sut rydym yn cadw'n campysau'n ddiogel.

WGU Logo
Natur

Natur a Normalrwydd: Myfyrdodau Mam sy’n Gweithio ar y Gwibio dyddiol i’r Ysgol

Yn ôl at y gwibio dyddiol i’r ysgol…

Rydw i newydd ddod yn ôl o’r archfarchnad gyda bag yn llawn o gynhwysion coginio (teisen gaws, i chi gael gwybod), am fod y merched yn ôl yn gwneud gwersi DT ymarferol yn yr ysgol am y tro cyntaf mewn tros flwyddyn. Mae’r peiriant golchi wrthi’n gwneud ei waith yn golchi gwisgoedd ymarfer corff mewn ystafell arall, ac mae gen i bentwr mawr o ddillad ysgol i’w smwddio nes ‘mlaen. Mae hyn yn swnio braidd yn gwynfanllyd, ond â dweud y gwir mae’n dipyn o ryddhad bod yn ôl i’r ‘normal’. Dydy’r smwddio ddim hyd yn oed yn fwrn.

Mae pethau fwy neu lai’n normal, ond ddim cweit. Rydw i dal i deimlo straen yn yr archfarchnad, yn enwedig pan fo rhywun, fel bore heddiw, yn dod yn rhy agos wrth estyn am y bisgedi. Mae’r offer gwrthfeirysol hanfodol geni i yn y bag ar bob achlysur (cadachau, hylif, mwgwd) ac mi rydw i’n dal fy hun yn aml yn gwneud asesiad risg meddyliol, pethau fel pa mor aml ydw i wedi sychu arwynebeddau y mae pobl yn eu cyffwrdd, ac a ddylwn i ddiheintio’r poteli llefrith ar y stepen ddrws cyn eu rhoi yn yr oergell. Rydw i’n hiraethu braidd wrth wylio rhaglenni teledu cyn-2020 ble mae pobl yn cofleidio ei gilydd. Mi wnes i hyd yn oed grïo wrth wylio pennod o’r Time Team ddoe oedd yn dyddio o 1995, pan roedd pawb yn un haid gyda’i gilydd o amgylch darn o grochenwaith o oes yr haearn, ac yna’n closion yn dynn o amgylch tanllwyth o dân yn y dafarn.

Felly mae pethau yn rhyw fath o normal, ac eto dydyn nhw ddim. A sut ydym ni’n delio gyda hynny yn feddyliol? Sut ydan ni i fod i ymddwyn? Ai normalrwydd sydd gennym ni, ar hyn o bryd? Neu ai’n ôl bryd hynny oedd pethau’n normal? A fydd y dyfodol yn normal, ac os felly, pa fath o normal? Mae’r cwestiynau yn ddiddiwedd, ac mae’n ymddangos bod rhaid inni addasu i’r cyflwr newidiol yma, a’r unig beth cyson yw’r ddynamiaeth. Mi fuaswn i wrth fy modd petai gen i atebion i’r cwestiynau yma, ac mi fuaswn i’n ddynes go gyfoethog petai gen i, ond dydw i'n gwneud dim mwy na mynd gyda’r llif, fel pawb arall.

O ddarllen rhywfaint o’r dystiolaeth gynnar ddaeth allan o’r pandemig, mae’n nodedig bod bodau dynol, yng nghanol yr holl drasiedi ac anrhefn, yn anhygoel o dda am ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi. Tra bod cyflymer bywyd wedi cynyddu’n aruthrol i rai, fe welodd eraill bod arafu i lawr o ofynion arferol cymudo, gyrru, y gwibio dyddiol i’r ysgol, wedi cael effaith bositif ar eu lles meddyliol, ac yn ddiddorol roedd hyn yn wir ar gyfer pobl ifanc yn ogystal ag oedolion. Roedd dod yn agosach at fyd natur yn help aruthrol hefyd, gyda phobl yn treulio llawer mwy o amser yn yr awyr agored, yn tyfu eu ffrwythau, llysiau a blodau eu hunain, cysylltu gyda’r tymhorau, a sylwi ar bethau o’u hamgylch. Newidiodd y drefn feunyddiol wrth i weithgareddau amser hamdden newid, felly roedd mwy o bobl yn treulio amser yn cerdded a beicio, ac fe brynodd lawer o bobl anifail anwes. Roedd pobl hefyd yn treulio mwy o amser yn y parc neu’r ardd, ac mae tystiolaeth yn dangos y bod gweld dieithryn llwyr yn cerdded yn y pellter ar draws y cae yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i dymer person.

Felly beth sy’n gyffredin rhwng yr holl bethau yma? Wel, rwy’n siŵr y byddai modd dod i sawl casgliad, ond i mi mae yna ddau beth pwysig i fyfyrio arnynt. Yn gyntaf, fel bodau dynol, mae ein perthynas gyda’r awyr agored yn rhan hanfodol o’n lles meddyliol. Ac yn ail, ein bod ni wedi mynd ati’n naturiol i wneud yr holl bethau yma dros y flwyddyn ddiwethaf heb unrhyw gyngor na chanllaw. Ac i mi, mae hyn i gyd yn eithaf anhygoel. ‘Natur’ yw thema wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl y flwyddyn hon, a thra bod cysylltiad yma gydag adar a choed a mannau gwyrdd, mi rydw i hefyd yn hoffi meddwl bod yna berthynas gyda’n natur sylfaenol ni fel bodau dynol - ein gallu i addasu, ein gwydnwch a’n cryfder. Mae gennym ni’r gallu anhygoel yma i adnabod ein hunain, ac i ddod o hyd i bethau sy’n ein helpu, hyd yn oed os nad ydan ni’n sylweddoli ar y pryd ein bod ni’n gwneud hynny.

Efallai felly bod yr wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl yma yn amser i ddathlu ein gallu naturiol i fod yn arbenigwyr arnom ni ein hunain, ac i fyfyrio ar yr hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu amdanom ni’n hunain dros y pedwar mis ar ddeg diwethaf - meddwl am beth rydym ni wedi ei fwynhau, beth sydd wedi bod o gymorth, a beth allem ni wneud fwy ohono.

Efallai y caf i gyfle i feddwl tra ‘mod i wrthi’n smwddio nes ‘mlaen, a cheisio cofio beth rydw i wedi ei ennill o’r holl brofiad, a beth rydw i am ei gadw wrth i fywyd symud yn ôl i fwrlwm y gwibio dyddiol i’r ysgol. Ac efallai, os hoffech chi, y gallwch chi neilltuo rhywfaint o amser i wneud yr un peth.

Am yr awdur

Rachel Byron

Rachel Byron

Mae Rachel yn Ddarlithydd ar y rhaglenni BSc Iechyd Meddwl a Lles, BSc Iechyd a Lles y Cyhoedd ac MSc Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles. Mae ganddi ddiddordeb mawr yn y cysylltiad rhwng y celfyddydau ac iechyd ac yn rhedeg menter gymdeithasol sydd yn hyrwyddo lles a chynhwysiant cymdeithasol drwy greadigedd. Mae’n fam i efeilliaid ac yn hoff iawn o gerdded gyda’r ddau sbaniel brwdfrydig sydd ganddi.

Top