Cydweithredu!

 

Agoriad Arddangosfa

 

Dydd Iau 23 Ebrill 2015, 6-8pm

Oriel Sycharth, Glyndŵr University

 

Yn agoriad yr arddangosfa yn Oriel Sycharth bydd yr artist Helen Knowles yn cyflwyno gwaith newydd: perfformiad lle bydd algorithm yn cael ei roi ar brawf.

 

Gan ddod â chyfreithwyr go iawn ynghyd i erlyn ac amddiffyn yr algorithm ger bron barnwr, mae’r gwaith yn eich gwahodd i ymuno â’r rheithgor a phenderfynu ar ddedfryd.

 

Mae gan Knowles ddiddordeb yng ngallu “algorithmau i hunanaddysgu, dysgu a chyfaddasu eu dilyniannau codio yn annibynnol o amryfusedd dynol” (Susan Schulppi – Deadly Algorithms). A all algorithm fod yn euog?

 

Bydd y noson hefyd yn cynnwys perfformiad annisgwyl gan Nastja Säde Rönkkö ac Ernest Truely.

 

 

Digwyddiad cyn-agoriad

 

Dydd Iau 23 Ebrill, o 8pm

Undegun, Stryt y Rhaglyw, Wrecsam, LL11 1SG

 

Digwyddiad cyn-agoriad yn Undegun, gyda pherfformiadau. Fel rhan o Ffocws Cymru mae’n rhaid cael tocynnau, ond bydd ymwelwyr â’r agoriad yn Oriel Sycharth yn cael tocyn mynediad am ddim.