YM MHOB FFORDD NEU LE / OLLERPLEX UN-PLEX

 

MELANIE COUNSELL - SEAN EDWARDS - VICKY FALCONER - IRENA KALODERA - MARGARET MALCOLM - FLORENCE PARADEIS - EXTENDED PLAY - KIEREN REED - HUGUES REIP - SPLITT

 

12 Hydref 2011 – 17 Chwefror 2012

 

Mae teitl yr arddangosfa yn gydnabyddiaeth chwareus o leoliad Oriel Sycharth. Mae ei lleoliad yn fanteisiol, yn nhyb Melanie Counsell, sy’n dod â chriw brith ac amrywiol o artistiaid wedi’u lleoli yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Ffrainc at ei gilydd, gan roi cyfle unigryw iddyn nhw fentro a rhoi tro ar wneud gwaith celf heb ei brofi, heb ei ddatrys, ac hyd yma heb ei weld.   

 

Mae’r arddangosfa yn cynnwys ffotograffau, cerfluniau, cerddoriaeth, gweithiau sain a pherfformiad gan artisitiad sy’n gweithio mewn ffyrdd amrywiol ac ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd, â phob un yn cynnwys sampl bychan o’u gwaith presennol. 

 

Mae'r reveiw canlynol yr arddangosfa ei ysgrifennu gan Laura Mansfield: 

  

Wrth gerdded tuag at gampws y brifysgol, roedd golau pŵl, llwyd y cymylau gaeafol fel petaent yn erdyu’r adeilad isel. Ac eto, unwaith i mi gerdded i mewn trwy’r drysau, roeddwn mewn amgylchedd o deils patrymog a chynllun 1950aidd slic. Roedd y goleuadau llachar, y leino sgleiniog, y grisiau ysgubol a’r waliau mewnol teilsiog yn cyflwyno lle hollol wahanol i’r tirlun tu allan. Wedi’i lleoli yn yr adeilad annisgwyl hwn mewn tref a deimlai wedi’i thraflyncu gan gymylau, ymddangosai’r oriel fel cilfach gudd a chyfrin, yn ynys ar gyfer arbrofi.  


An island offers a stage: everything that happens on it is practically forced to turn into a story, into a chamber piece in the middle of nowhere, into the stuff of literature ……
(Judith Schalansky, Atlas of Remote Islands, 2010).


Wrth fynd i mewn trwy ddrysau’r oriel, llanwai ffilm Irena Kalodera, A Swing and a Sway, y lle ag acwsteg ddirgrynol metel yn sgrafellu. Mae’r ffilm yn dangos darn bach o weithfan, sy’n adnabyddadwy oherwydd y cip o stand fetel, a’r gweddillion plastr neu lwch clai sy’n dod i’r fei. Mae’r camera fel petai’n crafu ar hyd arwyneb, â’r sŵn sy’n ei ganlyn yn awgrymu metel yn dirgrynu neu rywbeth trwm yn cael ei dynnu’n arw. Disodlir y siot annisgwyl o lyfn gan hirdyniad tonnog o symudiad a sain, a daw siglo a simsanu llithrig y teitl yn ddoniol o ddiangen yn hwb crynedig delwedd y camera.        


Yn erbyn y wal gefn, mae’r ffilm yn hydreiddio gweithiau eraill yr arddangosfa, gan roi sain a goleuni pendant i’r gofod. Mae’r cymylau tu allan fel petaent yn ymlusgo yn ôl i mewn wrth i oleuadau’r oriel bylu gan wneud lle i’r delweddau tafluniedig, â llwydni’r tywydd yn cael ei adlewyrchu yn nhrylediad golau sinematig y ffilm.


Mae trosiad y cwmwl, endid sy’n trawsnewid pethau bob dydd trwy gysgod tywyll disgynnol, fel petai’n atseinio yn y gweithiau eraill yn yr oriel, yn arbennig efallai gyda Merddwr  Hugues Reip. Mae inc du afloyw y print yn amsugno’r golau mewn delwedd o ddŵr oer, dwfn, du. Gerllaw chwaraewr recordiau yn arddangos y finyl Extended Play, mae crychau’r dŵr yn adlewyrchu’r rhigolau ar y record, â’r cylchau yn troi mewn cylch diddiwedd. Mae chwarae neu adlewyrchu diddiwedd yn cydfynd â sefyllfa’r oriel led-guddiedig hon. Mae’n ofod sydd fel petai y tu allan i fodolaeth bob dydd, wedi’i ddal a’i ynysu fel ynys ryfedd o arbrawf o fewn décor Atomig adeilad y brifysgol a niwl dwl y tirlun o’i gwmpas.


Once you isolate yourself on a little island in the sea of space, and the moment begins to heave and expand in great circles, the solid earth is gone, and your slippery, naked dark soul finds herself out in the timeless world .. .. you are out in the other infinity
(D.H Lawrence The Man Who Loved Islands, 1928)


Wedi’i osod ar y chwaraewr recordiau, gwahoddir y gwyliwr i wrando ar synau arbrofol Extended Play. Ceir acwsteg neu synau eglur rhwng pob trac sy’n atseinio fel ergyd gwn neu gip o gêm gyfrifiadurol; sŵn llacio, cael eich taro neu gêm drosodd. Wedi’u dal a’u maglu yng nghilfach yr oriel, daw’r tameidiau o sain yn gyfeiliant ergydiol i rŵn ffilmig Kalodera, gan ffurfio amgylchedd acwstig eglur.  


Mae ataliad dros dro o fywyd bob dydd yn weladwy yn ffotograff Florence Paradeis, Le Baiser. Mae cwpwl yn sefyll wedi’u cloi mewn coflaid o flaen dinaslun Paris, er nad dyma’r bensaernïaeth 19eg ganrif y buasem yn ei chysylltu ar unwaith â’r brif ddinas fin-de-siècle yma, ond yn hytrach ddatblygiad modern, La Defense o bosibl, sef cyfadeilad dyfodoloaidd o nendyrau sy’n adleisio ffilmweddau ffuglen wyddonol. Mae’r ddinas ddyfodolaidd hon yn fframio cyrff y ffigyrau cordeddog mewn gofod sy’n ymddangos ar unwaith yn real ac yn un wneuthuriedig – yn gyfredol ac o ddyfodol posibl. Mae’r modd y mae’r ffigyrau wedi’u goleuo yn eu gosod ar wahân i’r byd o’u cwmpas, gan greu ansicrwydd llawn tensiwn. Mae’r ddynes yn edrych yn syth ar y gwyliwr, â’r goflaid, y gusan, yn dod yn fwy o wasgfa a magl. Mae’n ymddangos na ellir dianc rhag ei threm, y ddinas lechwraidd â’i breichiau o gwmpas y dyn.


Mae tensiwn rhwng y real a’r gwneuthuriedig yn adleisio â gweithiau eraill yn yr oriel hefyd.
Mae tri cherflun metel Margaret Malcolm yn creu elfen o’r simsan neu’r ansicr. Mae gan y dolenni a luniwyd yn ofalus, wedi’u gwasgu fymryn neu wedi’u crynhau’n chwithig, liw penodol iawn. Daw’r lelog llwydaidd o’r bandiau lastig trwchus a geir o gwmpas sypiau o asbaragws – unwaith i’r cysylltiad rhwng y lliw â’r llysieuyn gael ei wneud yn ein cof, mae’r gwaith yn procio dadleoliad graddfa aruthrol. Fe’n hatgoffir o gyfarfyddiad bob dydd, eto o fewn amgylchedd yr oriel mae hyn yn cael ei ddadleoli, ei drawsnewid a’i wneud yn ffantastig. O fewn ynys yr oriel, rydym ar wahân i fywyd bob dydd ac ar yr un pryd wedi’n gwahodd i ailddychmygu neu gofio ei wahanol ffurfiau. 


Mae cerfluniau Malcolm hefyd yn ffenestr sy’n fframio gweithiau eraill y ceir cipolwg ohonynt trwyddi, gan ffurfio cysylltiad gweledol a ffurfiol trwy’r arddangosfa i gyd. Mae dau brint sgrîn Melanie Counsell xx – arian/du ac xx – oren yn dangos patrymau geometrig sydd fel petaent yn dwyn i gof leoliadau gofodol a phensaernïol gan gydfynd â’r pwyslais ar adeiladwaith a geir yn ffilm Kalodera a geometreg fregus cerfluniau Malcolm. Eto mae’r ‘x’ yn y teitl yn mynd â ni yn ôl i dywyllwch print ffotograffig Reip, sain negyddol yr ergyd gwn neu gêm drosodd yn Extended Play a thensiwn coflaid y ffigwr benywaidd yn Le Baiser, dolen gron o gyfeiriadaeth sy’n adlewyrchu saernïaeth ffurfiol cerfluniau Malcolm a’u llinellau crwn bregus eu ffurfiad.


Dangosir gweithiau ffilm Vicky Falconer, Dideitl, ochr yn ochr mewn trefniant gofalus o daflunydd, bwrdd i’w ddal a delwedd dafluniedig. Gan ddefnyddio fframweithiau metel syml o wahanol daldra gydag estyll pren wedi’u gosod ar ben bob un, daw’r byrddau neu’r stolion cywrain hyn yn strwythur cerfluniadol y taflunir y ffilmiau trwyddo, ac sy’n cydfynd â’r ffilmiau. Mae’r ddau sgwâr bychan o olau tafluniedig yn dal dwy ddelwedd wahanol, un – manylion colonâd, golau oren rhywle poeth, llychlyd a phell i ffwrdd, y llall yn drefniant o estyll, arwynebau cegin laminedig, byrddau cegin, a fformica, sy’n dwyn i gof leoliad domestig. Eto, mae’r ddwy ddelwedd yn dwyn i gof fwy na chynhesrwydd rhywle tramor neu’r atgof o gegin gartrefol. Gyda grwnian ffilm herciog a thrac sain byddarol Kalodera, mae’r estyll gwag o liw yn dychwelyd i ymgom am wneud, â’u nodweddion materol yn dod yn rhan o’r weithfan a daflunir ar y wal gefn, neu’r darluniau llonydd o stribed ffilm yn gartrefol yng ngolau sinematig llwyd y ddelwedd ffilmig. Daw manylion y colonodau yn fwy o astudiaeth bensaernïol mewn strwythur a ffurf yn hytrach na siot super 8 rhamantus. Gan ymddangos gyntaf fel pocedi o liw a dihangfa oddi wrth weithfan y wal gefn, mae ffilmiau Falconer yn datgelu cyd-ddeialog am ddefnyddiau a gwneud, gan gydfynd â chysgod sinematig ac acwstig gweithfan Kalodera.


Yn llercian yng nghornel yr oriel fe ddown ar draws Dideitl (ar ôl R.M Schindler) gan Kieren Reed, sef pedestal a phlinth mewn paent llwyd afloyw. Mae gan y ddau wrthrych fanylion cywrain; proffil crwm tonnog sy’n debyg i bren turniedig dodrefn. Mae gan y pedestal bychan ddau wrthrych gwyn arno, sy’n ymddangos yn od o blentynnaidd neu wedi’u gwneud ar gyfer dysg neu addysg plentyn. Mae adlais o’r ffurfiau domestig yn ffurfio perthynas gydag Extended Play ble mae’r record yn barod i wrando arni, ei llawes wedi’i thaflu ar y llawr. Mae rhywbeth domestig neu gyfarwydd yn bresennol yng ngherflun Sean Edwards hefyd. Yn gorwedd yn llorweddol ar hyd pen yr oriel mae troed fechan yn sticio allan o’r strwythur - ystum symudol sy’n rhyfedd o anthropomorphig, gan gyflwyno elfen o’r ffigurol neu’r plentynnaidd, corff yn gorweddian a ffurf chwareus.

Gan gydnabod eitemau o ddodrefn cyfarwydd neu leoliad domestig, mae Dideitl (ar ôl R.M Schindler) yn dwyn i gof elfennau o’r cerflun a’r prop. Wedi’i leoli yng nghysgodion cornel yr oriel yn hytrach nag yng nghanol yr oriel sydd wedi’i goleuo, mae’r gwrthrych yn ymgymryd ag arwyddocâd mwy swyddogaethol; rhywbeth sydd wedi cael ei roi i’r naill ochr, y pedestal yn sefyll ger y plinth, yn barod i gael ei ddefnyddio, i gael ei fywiocáu a’i roi ar waith. Daw’r lliw llwyd afloyw ag arlliw o’r broses o wneud i’r arddangosfa, llwyd côt isaf o baent, trylediad sinematig goleuni o ffilm Kalodera a llwyd hydreiddiedig y tywydd, a’r cymylau isel yn cwmpasu’r gofod.


Mae’r rhyng-gysylltiad yma rhwng lleoliad yr oriel a phrofiad ei arddangosfa fewnol o weithiau yn creu amgylchedd penodol, â’i gyfander yn dod yn ffrâm hollbwysig wrth wylio pob un o’r gweithiau a arddangosir. Mewn cyfweliad gyda Phyliss Truchman ym 1970, disgrifiodd y cerflunydd minimol Carl Andre ei gerflun delfrydol fel ffordd neu sarn,
Ffordd yw fy ngherflun delfrydol i:


Hynny yw, ffordd nad yw’n datgelu ei hun yn unrhyw bwynt penodol neu o unrhyw bwynt penodol. Mae ffyrdd yn ymddangos ac yn diflannu. Mae’n rhaid i ni naill ai deithio arnynt neu wrth eu hymyl. Ond nid oes gennym un safbwynt unigol ar gyfer ffordd o gwbl, ac eithrio un sy’n symud, symud ar hyd-ddi. Mae’r rhan fwyaf o’m gweithiau – y rhai llwyddiannus yn sicr – wedi bod yn rhai sydd mewn ffordd yn sarnau – sy’n eich peri i deithio ar hyd-ddynt neu o’u cwmpas neu symud y gwyliwr drostynt. Maen nhw’n debyg i ffyrdd, ond yn sicr nid yn olygfeydd pwynt sefydlog. Credaf y dylai cerfluniaeth fod â safbwynt anfeidrol. Ni ddylai fod yna un lle neu hyd yn oed grŵp o lefydd ble dylech fod.


Mae cerdded i Oriel Sycharth a dod ar draws y casgliad o weithiau, wrth ymyl, trwy a gerllaw ei gilydd, yn cyflwyno cyfres o olygfeydd, cytserau a chysylltiadau amrywiol o werthoedd esthetig a chyfeiriadau cysylltiadol. Mae’r syniad o ffordd fel cerflun a ddisgrifiwyd gan Andre fel petai’n adleisio â’m siwrnai i’r gofod a hefyd o fwrw golwg ar y gwahanol weithiau yn yr arddangosfa. Mae’r teitl Ollerplex Un-plex yn cyflwyno tro ieithyddol chwareus sy’n awgrymu bod ym mhob ffordd neu le, mewn gofod sy’n galluogi pob ffordd a lle o wylio, safle unigryw,  resents a playful linguistic twist suggesting being in all ways or places, in a space that enables all ways and places of viewing, a site unique, yn groes i’r graen ac yn amgylchynol.


Wrth sefyll yn yr oriel wedi’n hamgylchynu gan gymylau o niwl tu allan a thu mewn Atomig yr adeilad, rydym ymhell o’r hyn sy’n gyfarwydd, yn sefyll mewn gofod o arbrofi a phosibiliadau dibendraw, gofod sy’n atsain fel llecyn cerfluniadol, gan ddwyn i gof sylw arall gan Carl Andre fod ei waith yn cynrychioli symudiad o gerflunwaith fel strwythur i gerflunwaith fel ffurf ac yn y pen draw, cerflunwaith fel lle.
Overlay 1
 
Overlay 2
 
Overlay 3