Flow-Llif-Virta

 

28 Ebrill – 26 Mai 2014

 

Agoriad Arddangosfa: 28 Ebrill 2014, 5-7pm

 

Maija Helasvuo

Mika Karhu

Anne Tompuri

Nora Tapper


Bydd yr arddangosfa newydd gyffrous yma sy’n cynnwys gwaith artistiaid o’r Ffindir yn edrych ar y llif creadigol rhwng bodau dynol a’r byd naturiol.  

 

Gallwch weld y lluniau o’r Arddangosfa yn ein horiel ar-lein.

 

 

Mae cerfluniau pren cerfiedig Maija Helasvuo yn cyfleu’n gynnes y tensiwn sy’n bodoli’n aml rhwng pobl, ac o fewn ein perthynas â’r byd naturiol, trwy ffurf byw’r pren a ddefnyddir ganddi.

 

www.maijahelasvuo.com 


Mae gwaith Mika Karhu yn archwiliad tywyll o’r cyflwr dynol, sy’n aml yn dod o hyd i elfennau o empathi a hiwmor.  

 

www.mikakarhu.com


Mae tirluniau tywyll, dramatig Anne Tompuri yn mynegi ei hymateb emosiynol i’r gwrthgyferbyniadau llym sy’n bodoli o fewn golygfeydd ardal llynnoedd y Ffindir.  

 

www.annetompuri.fi


Mae Nora Tapper yn defnyddio deunyddiau domestig, pren a cherameg i wneud delweddau 3 dimensiwn sy’n cyfeirio at y cartref a’r ffordd yr ydym yn cyd-fyw.    

 

Mae’r arddangosfa yma yn rhan o’r cyfnewid artistig rhwng artistiaid o Gymru a’r Ffindir. Yr artistiaid Cymreig sy’n ffurfio hanner arall y gyfnewidfa yma yw: Angela Davies, Tom Gilhespy, James Harper a Marja Bonada, a fydd yn arddangos yn Galleri Pihatto yn Lappeenranta, y Ffindir yn hydref 2014.

Mam a Mab 2008, Maija Helasvuo
 
Y Tirlun - Maisema, 2009, Anne Tompuri, Gouache a phigment ar gynfas
 
Gadewaist Fi’n Wag, 2012, Mika Karhu, Inc ar Bapur
 
Flow-Llif-Virta
 
Flow-Llif-Virta