Celf a Diwydiant

 

9 Hydref – 14 Rhagfyr 2012

 

Mae'r arddangosfa yma yn cynnwys gweithiau o gasgliad lleol o ddarluniadau a phaentiadau  o’r 20fed Ganrif gan artistiaid Cymreig yn bennaf, sy'n darlunio agweddau o Gymru Ddiwydiannol o dalcen y gwaith a'r gweithwyr, i'r cymdeithasau a ffurfiwyd gan y diwydiannau copr, glo a haearn. Mae Celf a Diwydiant yn rhan o’r dathliadau i nodi 125ed pen-blwydd Prifysgol Glyndŵr fel canolfan ddysg.    

 

Gweithiau gan Irene Bache, M. J. Boenisch, George Chapman, Howell Davies, Ray Evans, Tony Evans, Valerie Ganz, Glyn Griffiths, Josef Herman, Malcolm Hughes, Haydn Jones, Jack Jones, Stanley Lewis, George Little, Cavendish Morton, Ifor Pritchard, Will Roberts, Lawrence Rostern ac Ernest Zobole.

 

Cyhoeddwyd catalog darluniedig i gyd-fynd â’r arddangosfa, am £5.99 (£3.99 i fyfyrwyr).  Gellir prynu copïau yn Siop Lyfrau’r campws neu ar-lein trwy glicio yma

 

Agorwyd yr arddangosfa yma gan y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan.

 

Gallwch weld y lluniau o’r Agoriad Arddangosfa yn ein horiel ar-lein.

Celf a Diwydiant
 
The Reading Room