Amdanom ni

 

Ers iddi agor yn Chwefror 2009, mae Oriel Sycharth wedi ymdrechu i ddarparu rhaglen amrywiol o arddangosfeydd gan grwpiau ac unigolion sy’n amlygu gwaith artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. 

  

Ein nod yw arddangos gwaith o’r safon uchaf gan egin-artistiaid ac artistiaid sy’n adnabyddus yn eu maes. Mae’r rhaglen yn arddangos ystod eang o ddisgyblaethau a chyfryngau i ysbrydoli ac ennyn diddordeb ein myfyrwyr a’r gymuned ehangach. 



Trefnir rhaglen yr Oriel gan Estelle Thompson, ac mae wedi cynnwys nifer o guraduron gwadd. 

Image 1