Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Sir Ddinbych

Sir Ddinbych

Mae Sir Ddinbych yn ymestyn o drefi glan môr poblogaidd y Rhyl a Phrestatyn yn y gogledd, trwy Ddyffryn Clwyd, dros Fwlch yr Oernant panoramig i Ddyffryn Dyfrdwy hardd i dref dwristaidd brysur Llangollen.

Ar hyd y ffordd mae’n cynnwys trefi hanesyddol Rhuddlan, Dinbych a Rhuthun, bob un â’i gastell ei hun, a dinas gadeiriol fechan Llanelwy.

Sir Ddinbych

Ym mis Gorffennaf bob blwyddyn mae llygaid diwylliannol y byd yn troi at y sir wrth iddi gynnal Eisteddfod Gerddorol Gydwladol yn nhref dlos Llangollen yn Nyffryn Dyfrdwy.

Mae’r ŵyl hon yn denu cystadleuwyr o bob cwr o’r byd, a’r dref yn cael ei thrawsnewid gan gyfuniad nwyfus o wisgoedd cenedlaethol, dawnsfeydd gwerin a gwahanol ieithoedd.   

Sir Ddinbych

Ceir adloniant yn Llangollen gydol y flwyddyn. Mae’r Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau, a chynhelir Gŵyl y Cyrion flynyddol yn y dref sy’n cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys nosweithiau comedi, bandiau lleol a nosweithiau diwylliannol.  

Mae cadwyni mynyddoedd helaeth y sir yn rhoi cyfleoedd rhagorol i ymwelwyr sydd â diddordeb ym mywyd yr awyr agored. Mae Canolfan Beiciau Mynydd Llandegla a aogrwyd yn ddiweddar yn denu ymwelwyr o bob cwr o Brydain.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr