|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr > Wrecsam a Chymru Gogledd Dwyrain > Diwydiant deinamig
|
||
|
|
Diwydiant deinamigMae Wrecsam yn ganolfan bwysig o dwf diwydiannol yn y DU. Mae’r gymuned fusnes yn cynnwys popeth o fusnesau masnachwyr unigol bychain i gwmnïau cydwladol mawr. Mae cwmnïau rhyngwladol adnabyddus yn Wrecsam yn cynnwys Kellogg's, JCB, Cadburys, Continental Can, Calypso, Sharp, Hoya a Brother Industries. Mae’r ysbryd mentrus sy’n bodoli yn Wrecsam yn gwneud y dref yn elfen allweddol o economi Gogledd Cymru. Erbyn hyn, Stad Ddiwydiannol Wrecsam yw’r chweched stad ddiwydiannol fwyaf yn Ewrop. Mae gan beirianneg, rhannau modurol, pacediadau, gofal iechyd, meddygol a fferyllol, cyfrifiaduron, electroneg, ffibrau optegol/opto-electroneg, prosesu bwyd, cemegolion a phlastigau i gyd gynrychiolaeth gref yn yr ardal. |
|