Statws Elusennol
Rhif elusen: 1142048
Mae Prifysgol Glyndŵr yn Gorfforaeth Addysg Uwch a sefydlwyd o dan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 fel Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru yn 1993 gan dderbyn y teitl Prifysgol gan Gyfrin Gyngor Mwyaf Anrhydeddus Arglwyddi Ei Mawrhydi ar 3 Gorffennaf 2008.
Mae Prifysgol Glyndŵr hefyd yn Sefydliad achrededig o fewn Prifysgol Cymru ac mae’n aelod o Gynghrair Prifysgol Cymru.
Caiff Prifysgol Glyndŵr ei rheoli gan Offeryn ac Erthyglau Llywodraethu ac, fel y nodir yn ei Datganiad o’i Phrif Gyfrifoldebau, Bwrdd y Llywodraethwyr yw prif awdurdod cyfreithiol, ariannol a busnes y Brifysgol yn ogystal â’r awdurdod dros gyflogi ei holl staff. Mae datganiadau ariannol cyfunol y Brifysgol ar gael i'r cyhoedd (ar gael yn Saesneg yn unig).
Mae prif gampws y Brifysgol yn Wrecsam, ac ail gampws yn Llaneurgain. Mae'r Brifysgol yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid.
Cyfeiriad gweinyddol y Brifysgol yw Plas Coch, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam. LL11 2AW.
Fel pob Sefydliad Addysg Uwch, mae’r Brifysgol yn wastad wedi bod yn elusen, gyda’i llywodraethwyr yn ymddiriedolwyr iddi. Gan hynny y mae bob amser wedi gorfod cydsynio â chyfraith elusennol, ond wedi’i heithrio o’r amod i gofrestru. Fodd bynnag, mae Deddf Elusennau 2006 yn galw ar elusennau eithriedig i fod yn fwy atebol a chan hynny mae’n rhaid i brifysgolion gofrestru yn awr.
Cwblhaodd y Brifysgol y broses gofrestru ac fe’i chofrestrwyd yn llwyddiannus gyda’r Comisiwn Elusennau ym mis Mai 2011.
