Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Colette Bleakley

Penodwyd ym mis Hydref 2010

Colette Bleakley text cymraeg

A hithau wedi ymddeol yn ddiweddar, mae gan Colette dros 30 mlynedd o brofiad mewn addysg a datblygiad proffesiynol. Mae ganddi radd anrhydedd mewn addysg a gradd meistr mewn anghenion addysgol arbennig. Ar ôl dechrau ei gyrfa fel athrawes ysgol uwchradd, symudodd Colette i addysg bellach, gan ddarlithio ar raglenni datblygiad proffesiynol uwchraddedig a mentora athrawon dan hyfforddiant. Bu’n gweithio yn Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru o 1996 tan 2008 yn arbenigo mewn rheoli staff a datblygiad addysgol, ymchwil addysgol a strategaeth adnoddau dynol.

Yn ystod ei gyrfa, cyfrannodd at nifer o bwyllgorau ledled Cymru a’r DU gan gynnwys Pwyllgor Gweithredol SKILL Cymru, Pwyllgor Gweithredol yr RSC, Grŵp Datblygu Cyrff y Sefydliad Arweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch (SAAU), a Grŵp Peilot DPP yr Academi Addysg Uwch. Gwobrwywyd Cymrodoriaeth SAAU i Colette yn 2006.

Wedi’i gwahodd i fod yn aelod o dîm Academi Newid yr Academi Addysg Uwch yn 2004, bu’n gweithio mewn prifysgolion ledled y DU ar amrywiaeth o brosiectau strategol cyn ymddeol o hyn yn 2008. Bu’n weithgar yn hyrwyddo’r rhyngwyneb rhwng ymchwil, ysgolheictod, cynllunio cwricwlwm ac effeithiolrwydd addysgol. Mae Colette hefyd wedi cyhoeddi nifer fawr o erthyglau mewn cyfnodolion a chanllawiau ar agweddau strategol at ddatblygiad proffesiynol, arweinyddiaeth a dysgu.

Michael Cant (Cadeirydd) BArch MBA MIoD MRICS

Penodwyd ym mis Rhagfyr 2007, Is Gadeirydd o Ebrill 2009

Michael Cant text W

Ganed Michael yn Zimbabwe ac fe hyfforddodd fel pensaer ym Mhrifysgol Cape Town.

Fe reolodd bortffolio eiddo De Affricanaidd ar gyfer un o gyd-dyriadau diwydiannol mwyaf y cyfandir cyn cwblhau MBA ym Mhrifysgol Witwatersrand.

Ar ôl symud i’r DU yn 1982, bu’n gweithio i Dunlop yn delio gyda phortffolio eiddo byd-eang ac ymgymhwyso fel syrfëwr siartredig.

Yna daliodd uwch swyddi ble bu’n gyfrifol am wasanaethau isadeiledd ar gyfer ystod o fudiadau masnachol a hamdden cyn dod yn un o sylfaenwyr y proffesiwn FM yn y DU.  

Cychwynnodd Michael Larch Consulting yn 1995 ac fel Cyfarwyddwr Ymgynghori y mae wedi arwain rhaglenni strategaeth isadeiledd ar gyfer ystod eang o fudiadau enw cyfarwydd gan gynnwys dros 25 o golegau a phrifysgolion.

Bu’n arholwr allanol ar gyfer y radd Feistr FM yng Ngholeg Rheoli Ystadau Reading, ac y mae newydd gwblhau tymor fel cadeirydd sefydlol Action FM ac yn Is-Gadeirydd Grŵp Cyfadran RICS FM.

Mr Mervyn Cousins MMus, BMus, PGCE

Penodwyd ym mis Ebrill 2010

Mervy Cousins text W

Bu Mervyn Cousins yn ddisgybl ac yn Gorydd Cadeirlan yn Ysgol Minster, Southwell, yn Swydd Nottingham cyn mynd ymlaen i ddarllen Cerddoriaeth (BMus a MMus) yng Ngholeg y Royal Holloway, Prifysgol Llundain, ble bu’n Ysgolhaig Organ. Enillodd wobrau yn arholiadau’r Brifysgol a Choleg Brenhinol yr Organyddion.

Yn dilyn swyddi addysgu yn Llundain, a phenodiadau canu’r organ yn Eglwys St Bride’s, Fleet Street a St James, Sussex Gardens, penodwyd Mervyn yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Cadeirlan St Edmundsbury yn 1987.  Daeth yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth yno yn 1993, yn ogystal â Chorws-Feistr Corws Gŵyl Bury St Edmunds. Bu’n Gyfarwyddwr Cerddoriaeth yng Nghadeirlan y Metropolitan o 1997 hyd at haf 2003, a bu hefyd yn Organydd Prifysgol Lerpwl yn ystod y cyfnod hwn.

Y mae wedi perfformio, cyfarwyddo corau a rhoi cyngherddau fel unawdydd mewn sawl gwlad, yn ogystal â beirniadu mewn gwyliau yn Ewrop. Dechreuodd weithio yn Eisteddfod Gerddorol Gydwladol Llangollen ym mis Medi 2003, yn Gyfarwyddwr Cerdd yr ŵyl fyd-enwog, ac yna’n Brif Weithredwr arni rhwng 2009 a 2011. Erbyn hyn mae Mervyn yn cyfuno sawl prosiect llawrydd ei naws, gan gynnwys arholi a chyfarwyddo corawl adref a thramor, yn ogystal â gweithdai addysgol gyda phlant ac oedolion ledled y byd. Bu’n gweithio yn Tsieina yn ddiweddar, ac yn ystod 2011 a 2012 bydd yn rhan o fenter deithiol Opera Canolbarth Cymru i gyflwyno opera gymunedol Benjamin Britten, Noye’s Fludde, mewn chwe lleoliad ar hyd a lled Cymru.

Ei Anrhydedd y Barnwr Roger Dutton DL, BA

Penodwyd ym mis Mehefin 2008

Aelod Cyfetholedig o’r Pwyllgor Enwebiadau

Roger Dutton text W

Ganwyd y Barnwr Roger Dutton yn Wrecsam a’i addysgu mewn ysgolion lleol. Cafodd ei alw i’r Bar yn 1975 gan drin y gyfraith mewn siambrau cyfraith gwlad yn Nghaer hyd at fis Hydref 1996 pan gafodd ei benodi yn Farnwr Cylchdaith.

Erbyn hyn y mae’n eistedd yn Llys y Goron yng Nghaer a’r Gogledd Orllewin. Ers iddo gael ei gychwyn y mae wedi bod yn farnwr cyfweld ar gyfer y Comisiwn Penodiadau Barnwrol.

Y mae’n farnwr diwtor gyda’r Bwrdd Astudiaethau Barnwrol. Y mae’n gwasanaethu ar amryw o bwyllgorau cyfiawnder yn yr ardal ac ers 2005 y mae wedi bod yn Drysorydd Anrhydeddus Cyngor Barnwyr Cylchdaith Ei Mawrhydi.

Mr Adam Fuller

Penodwyd ym mis Gorffennaf 2011. Myfyriwr-Lywodraethwr

Adam Fuller with pic welsh

Cafodd Adam Fuller ei eni a’i fagu yn Wrecsam ac astudiodd ar gyfer BA (Anrh) mewn Rheolaeth Busnes ym Mhrifysgol Glyndŵr. Graddiodd yn 2011 a’i ethol yn llywydd Urdd y Myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2011-12.

Mae Adam yn gefnogwr pêl-droed brwd, Tottenham Hotspur yn arbennig, tra bod ganddo ddiddordeb hefyd mewn tennis, bowlio a hoci. Nod Adam yw sicrhau y bydd llais y myfyrwyr yn gryfach nag erioed ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Mr Derek Griffin

Penodwyd ym mis Ebrill 2009

Derek Griffin text W

Tan ei ymddeoliad yn 2010 Derek Griffin oedd Prif Weithredwr CAFCASS CYMRU ac yn Uwch Was Sifil gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Bu'n gyfrifol am gyflenwad effeithiol gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yng Nghymru (CAFCASS Cymru). Cafodd ei benodi yn Brif Weithredwr ym mis Ebrill 2008. 

Cyn y swydd honno, ef oedd Cyfarwyddwr Rhanbarthol Gogledd Cymru o’r Adran Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol, Llywodraeth y Cynlluniad, oedd yn gyfrifol am arolygiaeth feunyddiol 10 corff GIG gyda phencadlys yng Ngogledd Cymru.

Cyn iddo ymuno â Llywodraeth y Cynulliad yn 2003, bu’n dal amryw o swyddi o fewn llywodraeth leol, gan gynnwys Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam o 1995 hyd at 2003, a Chyfarwyddwr Grŵp Cyngor Dinas Lerpwl rhwng 1992 ac 1995.

Fel Cyfarwyddwr Datblygiad Economaidd Cyngor Sir Clwyd, bu’n gysylltiedig â denu cwmnïau newydd i’r sir, datblygiad sawl cwmni menter yr oedd ef yn Gyfarwyddwr an-Weithredol arnynt, a datblygiad yr isadeiledd economaidd. 

Mae ganddo radd gyntaf mewn Rheolaeth a Pheirianneg Diwydiannol, a gradd Meistr mewn Cynllunio a Dylunio Amgylcheddol.

Y mae’n Gymrawd o Brifysgol Glyndŵr.

Julia Grime LLB ACA

Penodwyd ym mis Ebrill 2010

Julia Grimes MAIN TEXT

Cafodd Julia Grime ei geni a’i magu yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Ar ôl iddi raddio yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Manceinion, daeth yn Gyfrifydd Siartredig a bu’n gweithio i gwmnïau masnachol, yn gyntaf i Ernst & Young, ac wedyn i Grant Thornton.

Ar ôl 11 mlynedd o hyn, penderfynodd newid ei gyrfa gan symud i faes gweinyddu’r Celfyddydau i ddilyn brwdfrydedd oes yn y theatr a’r celfyddydau gweledol. Ar hyn o bryd, hi yw Rheolwraig Gyffredinol Clwyd Theatr Cymru, theatr a chanolfan y celfyddydau dosbarth-rhynwgladol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Mae hi wedi gwasanaethu ar fyrddau cyrff celfyddydol amrywiol, yn fwyaf nodedig fel sylfaenydd-ymddiriedolwraig The Plaza, sef sinema gymunedol yng Ngogledd Glannau Mersi.

Brian Heath BSc MSc, MASI, FRSPH

Penodwyd ym mis Rhagfyr 2007

Aelod o staff addysgu cyfetholedig etholedig

Brian Heath text W

Mae Brian Heath yn Brif Ddarlithydd ym Mhrifysgol Glyndŵr mewn Iechyd Galwedigaethol a Chyhoeddus ac yn Gymrawd o’r Gymdeithas Iechyd Cyhoeddus Frenhinol y mae hefyd yn arholwr a thiwtor cofrestredig iddi.

Ar ôl cael gradd gyntaf mewn Economeg Adeiladu ac wedi cymhwyso fel Syrfëwr Meintiau Siartredig, mae Brian wedi gweithio’n helaeth yn y diwydiant adeiladu ac wedi ymgynghori mewn ystod o ddiwydiannau eraill gan gynnwys Awyrofod, Petrocemegol, Fferyllol, Gweithgynhyrchu Proses, Gofal Iechyd a Pheirianneg.

Mae ganddo hefyd brofiad helaeth mewn datblygu systemau Rheoli Prosiect a datblygu personél.

Yn ogystal, y mae wedi darparu rhaglenni hyfforddi rheoli risg mewn ystod o leoliadau diwydiannol yn y DU, America ac Awstralia ac y mae’n diwtor cofrestredig i IOSH, NEBOSH, RSH a CIEH.

Mae Brian hefyd yn ymgymryd â seminarau hyfforddi a datblygu yn rhyngwladol.

Mae Brian yn Gadeirydd y Grŵp Datblygu Iechyd a Diogelwch ac yn sgil hyn yn cyfrannu at drafodaethau gyda’r Pwyllgor Gwaith Iechyd a Diogelwch ynghylch datblygu deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn y DU.

Pam Hope BSc, DipN, PGCDE, RGN, RNT

Penodwyd ym mis Rhagfyr 2007

Aelod o staff addysgu a etholwyd i’r Bwrdd Academaidd

Pam Hope text W

Ar ôl bron i ugain mlynedd yn y GIG fel rheolwraig a nyrs gymwysedig cyn mynd ymlaen wedyn i gael cymwysterau addysgu priodol, ymunodd Pam â NEWI, sef rhagflaenydd Prifysgol Glyndŵr yn 1995/6.

Ers ymuno fel athrawes nyrs, mae Pam wedi bod yn arweinydd rhaglen ar gyfer y rhaglen Nyrsio cyn-cofrestru ac erbyn hyn y mae’n Arweinydd Pwnc ar gyfer Astudiaethau Iechyd yn yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer.

Mae Pam yn aelod o’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a Choleg Nyrsio Brenhinol y DU.

David Howard BSc (Anrh), ACII

Penodwyd ym mis Ebrill 2010
David Howard text W
Treuliodd David Howard ei flynyddoedd cynnar yng Nghaer, cyn i’w deulu symud i’r Eidal ble cafodd ei addysgu yn Ysgol San Siôr yn Rhufain gan ddatblygu sgiliau iaith mewn Ffrangeg ac Eidaleg. Fe astudiodd Economeg ym Mhrifysgol Loughborough cyn mentro i Farchnad Yswiriant Cenedlaethol Lloyd’s a dod yn frocer yswiriant siartredig yn 1974.

Etholwyd David yn Aelod o Lloyd’s yn 1980 cyn sylfaenu LPH Group plc. Arweiniodd hyn yn ei dro at sefydlu Grŵp Lothbury, sef Cwmni Broceriaeth a Gwarantu Lloyd’s, sydd â swyddfeydd yn Llundain a Chaer ar hyn o bryd. 

Mae David wedi byw yn Nyffryn Clwyd ers blynyddoedd lawer ac wedi bod yn ffermio yn organig ac yn anorganig ers y 1980au cynnar yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Mae David hefyd yn Aelod o Gyngor Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad. Y mae’n aelod hefyd o Gonffederasiwn Diwydiant Prydain yng Ngogledd Cymru ac yn aelod o Bwyllgor Awdit Prifysgol Glyndŵr.

John Kenworthy

Penodwyd ym mis Mehefin 200

John Kenworthy text W

Ganed John Kenworthy yn Grimthorpe, Barnsley yn 1950. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Gatholig St Wilfred yn Featherstone ac yng Ngholeg yr Iesu yn Lerpwl cyn mynd ymlaen i addysgu mewn nifer o ysgolion uwchradd Pabyddol yng ngogledd Lloegr.

Daeth yn Brifathro Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff yn Wrecsam yn 1997. O dan ei arweinyddiaeth ef mae’r ysgol wedi cyflawni llwyddiannau uchel cyson yn yr arholiadau TGAU ac wedi cael ei chydnabod fel un o’r ysoglion ffydd mwyaf cyson lwyddiannus yng Nghymru.

Enwebwyd John ei hun am Wobr RAF ar gyfer Prifathro’r Flwyddyn mewn Ysgol Uwchradd Gymreig yn 2005. Mae John wedi darparu arweinyddiaeth a phenderfyniad wrth greu Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff newydd, sef yr ysgol uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd gyntaf yng Nghymru, a agorodd ei hadeiladau tra modern newydd yn 2006. Bu’n gweithio’n ddiflino i ddod â’r eglwysi, yr AALl a’r Cynulliad ynghyd yn y prosiect arloesol yma gan arwain cymuned yr ysgol trwy gyfnod llawn her oedd yn golygu symud adeiladau’r ysgol ddwywaith mewn dwy flynedd!    
 
Mae John Kenworthy hefyd yn awdur, a chafodd ganmoliaeth am ei nofel i blant wedi’i lleoli yn ystod streic y glowyr o’r enw ‘Running Riot’ a gyhoeddwyd yn y 1980au. Mae diddordebau eraill John yn cynnwys cefnogi clwb pêl-droed Barnsley FC, teithio, darllen, chwaraeon ac ysgrifennu.
 
Mae John yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Glyndŵr.

Karen Lennox

Penodwyd ym mis Medi 2011 

Karen Lennox welsh with pic

Mae Karen wedi bod yn ymarferwr arweiniad gyrfaoedd ers dros 21 mlynedd ledled Glannau Mersi a Gogledd Ddwyain Cymru, ac wedi bod yn rheoli’r gwasanaeth gyrfaoedd ym Mhrifysgol Glyndŵr ers y 6 blynedd diwethaf. Hi yw Cadeirydd Grŵp Gwasanaethau Gyrfaoedd Addysg Uwch Cymru. 

Wedi’i geni yn Lerpwl, dychwelodd Karen i faes addysg yn 28 oed gan ddechrau gweithio i Wasanaeth Gyrfaoedd Knowsley, mynd ymlaen i raddio o Brifysgol Fetropolitaidd Manceinion a chymhwyso fel cynghorydd gyrfaoedd.    

Dechreuodd ar ei gyrfa yn gweithio mewn ysgolion a cholegau ledled Glannau Mersi, cyn symud i faes rheoli prosiectau mawr wedi’u hariannu gan Ewrop yn rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig, gan gefnogi pobl a fu’n ddi-waith ers tro.

Ar ôl symud i Gymru yn 2001, bu’n gweithio i Gyrfa Cymru’r Gogledd Ddwyrain, yna gyda Chymdeithas Gyrfa Cymru, cyn ymuno â Phrifysgol Glyndŵr.

Mae Karen yn ysgrifennydd cwmni ac yn ymddiriedolwr menter gymdeithasol ac elusen leol fechan sy’n cynnig gofal plant tu allan i’r ysgol.  

Mr Ian Morris

Penodwyd ym mis Mehefin 2008

Aelod Cyfetholedig o’r Pwyllgor Archwilio

Mr Ian Morris text W

Mae Ian Morris yn gyn-Lywydd Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr.

Wedi’i ethol i’r Cyngor yn 1984, roedd Ian gynt yn Llywydd Cymdeithas Ardal Lerpwl o’r Cyfrifwyr Siartredig (1978-1979).

Mae’n Bartner yng nghwmni Morris & Co yng Nghaer, ac yn Bartner yn Turner Peachey yn yr Amwythig.

Mae Ian wedi dal nifer o swyddi uwch yn yr Undeb Siarad Saesneg gan gynnwys Llywodraethwr, Is-Gadeirydd Pwyllgor Cenedlaethol Cymru a Lloegr, Trysorydd y Cyngor Rhyngwladol, a Thrysorydd Undeb Siarad Saesneg y Gymanwlad a Phwyllgor Cenedlaethol Cymru a Lloegr. Bu gynt yn Drysorydd ac yn Gadeirydd Cymdeithas Gerddorol Caer ac yn Gyn-Gadeirydd Uniongyrchol Clwb Busnes Caer.

Addysgwyd Ian yn ysgol Birkenhead School ac yn Ysgol Rydal (Ysgol Rydal Penrhos erbyn hyn), Bae Colwyn.

Bruce Roberts BSc BA FCA

Penodwyd yn 2009

Bruce Roberts text W

Cafodd Bruce Roberts ei eni a’i addysgu yn Wrecsam. Ar ôl cwblhau graddau mewn Ffiseg ac Athroniaeth fe hyfforddodd fel Cyfrifydd Siartredig. Bu’n gweithio fel Rheolwr Archwilio am nifer o flynyddoedd cyn cychwyn ei gwmni cyfrifwyr ei hun yn 1997. 

Mae Bruce wedi gwasanaethu’r gymuned leol ers blynyddoedd lawer fel Cynghorydd Cymuned ac fel llywodraethwr ysgol. 
 
Bu Bruce yn gwasanaethu fel Aelod Cyfetholedig o Bwyllgor Archwilio’r Bwrdd cyn cael ei benodi yn aelod annibynnol o’r Bwrdd.

 

 

Vincent Ryan LLB

Penodwyd ym Mai 2011

Vincent Ryan welsh with pic

Cafodd Vincent Ryan ei eni a’i fagu yn Wrecsam. Wedi iddo raddio yn y gyfraith ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, ymunodd â chwmni cyfreithwyr Allington Hughes fel cyfreithiwr dan hyfforddiant ym 1984. Gweithiodd ei ffordd i fyny i fod yn Bartner gydag Allington Hughes erbyn 1988 ac arhosodd yno hyd at 2009 yn arbenigo mewn nifer o feysydd gan gynnwys: cyfraith cyflogaeth, cyfraith droseddol, hawliau anabledd, anaf personol, cytundebau masnachol a chyfreithiad sifil.

Yn ystod ei gyfnod gydag Allington Hughes, bu’n gweithio yn rhan-amser fel barnwr cyflogaeth (2002 – 2009). Mae’n aelod o Gymdeithas y Cyfreithwyr Cyflogaeth ac ymddiriedolaethau preifat gan gynnwys cadeirydd ymddiriedolwyr Sefydliad Charles Lloyd a Phwyllgor Rheolaeth Diogelu Plant Esgobaethol Wrecsam.

Astudiodd Vincent ar gyfer MA mewn Moeseg a Chyfraith Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Manceinion gan raddio yn 2009. Yn yr un flwyddyn, penodwyd Vincent fel Barnwr Cyflogaeth cyflogedig y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (Cymru a Lloegr) ar gyfer Ardal Lerpwl a Manceinion.

Yr Athro Michael Scott BA MA PhD FRSA FHEA DL
Michael Scott text W

Addysgwyd yr Athro Michael Scott ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a Phrifysgol Nottingham gan gael ei PhD o Brifysgol De Montfort.

Mae’n ysgolhaig llenyddol nodedig sydd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ac erthyglau ac wedi golygu dwy gyfres o bwys, yn fwyaf nodedig y gyfres ddylanwadol Text and Performance a helpodd i ddatblygu rhaglenni Meistr mewn agwedd newydd at Astudiaethau Shakespeareaidd yn y DU, yr UDA, Awstralia a llefydd eraill. Mae ei lyfrau yn cynnwys Renaissance Drama and a Modern Audience, Shakespeare and the Modern Dramatist a John Marston’s Plays: Theme, Structure and Performance.

Mae wedi treulio deng mlynedd ar hugain yn y sector addysg uwch yn ymroi i gynhwysiad cymdeithasol ac agor prifysgolion i’r gymuned. Yn flaenorol bu’n Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol De Montfort, Caerlŷr, wedi iddo ymuno â’r brifysgol yn 1989 o Goleg Polytechnig Sunderland ble bu’n Athro mewn Saesneg ac yn Bennaeth yr Ysgol Ddyniaethau.

Am bedair blynedd ar ddeg bu’n Athro Gwadd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Georgetown, Washington DC ble cafodd ei anrhydeddu gyda’r Wobr Ganmlwyddol am Addysgu ac Ysgolheictod Nodedig ym 1989. Bu’n Gymrawd Gwadd yn Harris Manchester, Rhydychen yn ystod 2010-2011.

Ers iddo gael ei benodi i Wrecsam yn 2001, mae’r Athro Scott wedi arwain y tîm a greodd Prifysgol Glyndŵr. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor UNESCO Cymru, Comisiwn Ffilm Gogledd Cymru ac yn gwasanaethu ar Gyngor y BBC yng Nghymru.

Mae wedi creu cysylltiadau rhwng Prifysgol Glyndŵr a phrifysgolion yn Tsieina, India, Japan, Maleisia, Rwsia a ledled Ewrop. Yng Nghymru, mae Prifysgol Glyndŵr wedi ehangu trwy’r Gogledd Ddwyrain gan weithio gydag AirBus ar ddatblygiad canolfan addysgu ac ymchwil newydd mewn technolegau defnyddiau cyfansawdd yn Sir y Fflint. Yn Sir Ddinbych, datblygwyd Optic Glyndŵr yn Llanelwy sydd wedi dod yn ganolfan ymchwil o bwys wedi’i hariannu gan Ewrop mewn technolegau arwynebau optegol tra manwl sy’n ymwneud yn benodol â phrosiect Telesgop Eithriadol Fawr Ewrop. Gan weithio gyda chwmnïau fel Sharp, mae’n ymwneud yn yr un modd ag ymchwil ynni heulol a holograffeg.   

Yn 2011, o dan arweiniad yr Athro Scott, agorodd Prifysgol Glyndŵr gampws Brifysgol Glyndŵr yn Llundain gan gymryd Ysgol Rheolaeth a Gwyddoniaeth Llundain i’w meddiant. Daeth Stadiwm y Cae Ras yn Wrecsam i feddiant y Brifysgol yn ogystal, a Chanolfan Hyfforddi Chwaraeon Colliers Park yn Ngresffordd er budd myfyrwyr y Brifysgol a’r gymuned y mae’r Brifysgol yn ei gwasanaethu, tra hefyd yn sicrhau maes cartref ar gyfer CPD Wrecsam.

Penodwyd Michael Scott yn Ddirprwy Raglaw Clwyd yn 2009. Y mae’n briod gyda dwy o ferched ac ŵyr, Sam, ac yn byw yn Marffordd, Wrecsam.

Yr Athro Peter Toyne CBE DL

Penodwyd ym mis Chwefror 2008

Peter Toyne text W

Penodwyd yr Athro Peter Toyne i swydd Is Ganghellor a Phrif Weithredwr Coleg Polytechnig Lerpwl yn 1986.

Daeth ei benodiad i’r swydd uchel yma yn sgil gyrfa lwyddiannus iawn mewn AU fel rheolwr academaidd ac uwch mewn ystod eang o SAU ledled y DU gan gynnwys Prifysgol Exeter, Coleg Bishop Otter, Chichester, a Choleg Polytechnig Gogledd Ddwyrain Llundain.

O dan ei arweinyddiaeth, tyfodd Coleg Polytechnig Lerpwl a datblygu i fod, fel Prifysgol John Moores Lerpwl (LJMU), yn un o’r SAU mwyaf yn y DU.

Yn ystod ei yrfa mewn rheolaeth prifysgol, penodwyd yr Athro Toyne hefyd i nifer o benodiadau cyhoeddus uwch gan gynnwys cadeirydd neu aelod o sawl corff cysylltiedig ag Addysg Uwch, gan gynnwys Is Gadeirydd CPD, Cadeirydd Pwyllgor CNAA ar Fynediad a Chymwysterau, a Chadeirydd Pwyllgor Amgylcheddol CVCP.

Mae gan yr Athro Toyne ddiddordeb brwd yn yr amgylchedd ac wedi cael ei benodi yn Gadeirydd Groundwork Glannau Merswy ac yn aelod o Fwrdd Cronfa Natur Bywyd Gwyllt y Byd (WWF), yn ogystal â bod yn aelod o Fwrdd Cynghorol Fforwm y Dyfodol gan gydweithio gyda Jonathan Porritt a Sara Parkin.

Ymddeolodd yr Athro Toyne o LJMU yn 2000 ac ers hynny y mae wedi parhau i gyfrannu’n sylweddol i fywyd cyhoeddus yn Lerpwl a Gogledd Orllewin Lloegr.

Mae ei benodiadau uwch niferus ers 2000 yn cynnwys: Uwch Siryf Glannau Merswy (2001-02); Cadeirydd, Cais Prifddinas Diwylliant Lerpwl; Cadeirydd, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl; Cadeirydd Cenedlaethol, Ffrindiau Cerddoriaeth Cadeirlan; Aelod o Fwrdd Ardal Glannau Merswy Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (a chadeirydd ei Bwyllgor Archwilio; Cadeirydd, Apêl Hospis Woodlands; Cadeirydd, Ymddiriedolaeth Cadeirlan Lerpwl ac aelod o Gyngor y Gadeirlan; Llywydd YMCA Lerpwl; Llywydd, Cymdeithas Organyddion Lerpwl; ac aelod o Fwrdd Theatr Everyman.

Gan adlewyrchu ei ddiddordebau personol, y mae’r Athro Toyne hefyd wedi cyhoeddi ystod eang o llyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion hyddysg am bynciau amrywiol mewn daearyddiaeth ddynol, yn bennaf ar faterion amgylcheddol – e.e. World Problems (1969) a Recreation and Environment (1974) – ynghyd â thri adroddiad llywodraeth o bwys: Educational Credit Transfer (1979); Environmental Responsibility in Further and Higher Education (1993); Taking the Environment Agenda Forward (1996).

Gwobrwywyd CBE i'r Athro Toyne yn 2009 am ei wasanaethau i Lerpwl.

Janet Wademan BA, PhD, FCMI, FRSA

Penodwyd ym mis Medi 2009
Aelod cyfetholedig o’r Pwyllgor Archwilio

Janet Wademan

Mae Dr. Wademan yn frwd dros Gymru o swyddi gwerth-ychwanegol uchel o fewn amgylchedd deinamig a chyfnewidiol. Cred fod gwytnwch a manteisiaeth yn allweddol i oroesi mewn system addasol gymhleth ble mae amodau a stimwli yn newid mewn amser real, fel yr amlygir gan yr amgylchedd economaidd sydd ohoni. 

Ar drywydd ei brwdfrydedd, mae Dr Wademan wedi bod yn gweithio o fewn diwydiant a chyda chyrff llywodraethol rhanbarthol. Yn 2002 fe’i penodwyd yn aelod sefydlol o Banel Cynghorol Ymchwil Economaidd y Prif Weinidog ac yn 2006 fe’i penodwyd i Grŵp Cynghorol Gweinidogol Adran yr Economi a Chludiant. Mae ei haelodaeth o’r ddau grŵp yma yn unigryw, gan roi mewnwelediad neilltuol i’r broses o wneud-polisïau yng Nghymru ac yn rhoi cyfle i gyfrannu syniadau i ganol llywodraeth Cymru. Mae aelodaeth o’r cyrff hyn yn caniatáu llawer o groes-ffrwythloni syniadau ymhlith arbenigwyr o ystod eang o ddisgyblaethau a phrofiad. O 1998 hyd yma, mae Dr. Wademan wedi gwasanaethu ar amryw o fyrddau iechyd a chafodd ei dewis gan Lywodraeth y Cynulliad i drosglwyddo arbenigedd arweinyddiaeth a rheolaeth o’r sector preifat er budd awdurdod lleol diffygiol.  

Mae’r gallu i ganlyn y swyddi hyn gyda chyrff llywodraethol yn ddyledus i’w gyrfa lwyddiannus fel cynghorydd i gwmnïau YaD uwch-dechnoleg; canlynir y rôl gynghorol yma trwy ei chwmni ei hun (Van Helsing Limited) fel cydymaith o gorff rhyngwladol adnabyddus. Ffurfiwyd Van Helsing Limited yn 1995 ar ôl i Dr. Wademan dreulio 15 mlynedd yn gweithio yn y diwydiannau rheoli amddiffyn ac awyrofodol rhyngwladol yn arwain prosiectau datblygu systemau electronig o’r radd flaenaf.

Mr Ian Williams

Penodwyd ym mis Medi 2009

Ian Williams text W

Mae Ian Williams yn Rheolwr Newid Strategol o fewn Llywodraeth Cymru.

Ymunodd Ian â Llywodraeth Cynulliad Cymru fel Cyfarwyddwr Busnes Rhyngwladol Cymru (IBW) yn 2006 yn gyfrifol am reoli pob buddsoddiad mewnol i Gymru, yn ogystal ag annog cwmnïau yng Nghymru i fod yn fwy cystadleuol trwy ryngwladoli eu busnesau.

Daeth Ian yn Gyfarwyddwr Gogledd Cymru (yn arwain datblygu economaidd yn yr ardal) ac yn gyfrifol am Fenter (yn darparu cefnogaeth i entrepreneuriaid a busnesau twf) trwy Gymru gyfan.

Mae Ian yn hanu’n wreiddiol o Fethesda yng Ngogledd Cymru ac yn siaradwr Cymraeg rhugl.  Mae ganddo ugain mlynedd o brofiad fel gweithredwr i gwmni olew Shell International. Cyn ymuno â Shell, treuliodd Ian beth amser fel canwr pop ac yn gyflwynydd teledu yng Nghymru.

Mae Ian yn briod â Nest Williams, gohebydd teledu gyda BBC Cymru.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr