Strategaeth Gymunedol Wrecsam
Gweledigaeth ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2009 - 2020
Mae Prifysgol Glyndwr yn cydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar Strategaeth Cymuned Wrecsam.
Mae Strategaeth Gymunedol Wrecsam yn gosod allan y targedau hirdymor y bydd sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus lleol yn cydweithio i’w cyflawni er mwyn gwella ansawdd bywyd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu’r Strategaeth Gymunedol i sicrhau ei bod yn parhau i ganolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig i bobl leol nawr ac am y deuddeg mlynedd nesaf.
Lleisiwch eich barn drwy glicio ar y strategaeth ddrafft ac ateb yr arolwg ar-lein. Os hoffech gopi caled o’r strategaeth yna cysylltwch ag Anna Wallace drwy anfon ebost et: statistics@wrexham.gov.uk, drwy ffonio: 01978 292298, neu alw yn un o swyddfeydd y Cyngor yng nghanol y dref.
Byddwn yn ystyried pob ymateb ac yn diweddaru’r strategaeth i sicrhau ein bod yn adlewyrchu beth sy’n bwysig i bobl Bwrdeistref Sirol Wrecsam a beth allwn ni ei gyflawni o fewn yr adnoddau sydd ar gael gennym. Bydd y strategaeth diwygiedig yn cynnwys y blaenoriaethau am y 12 mlynedd nesaf a ceir cynllun gweithredu’n amlygu beth fyddwn yn ei gyflwyno gyntaf. Cyhoeddir y strategaeth derfynol erbyn 1af Ebrill 2009 a bydd ar gael yn gyffredinol.
