Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Prifysgol Cymru NEWI

2002 ymlaen

Prifysgol Cymru NEWI

Yn 2002, derbyniodd NEWI wahoddiad ffurfiol i ddod yn aelod llawn o Brifysgol Cymru, ac ym mis Hydref 2004, cymeradwyodd Prifysgol Cymru fod NEWI yn cymryd y cam o fod yn goleg cyswllt i fod yn aelod llawn o Brifysgol Cymru.  

Trwy gydol ei hanes mae NEWI wedi cael ei yrru gan anghenion y gymuned leol.

O’i wreiddiau cynnar fel darpariaeth addysgiadol ychwanegol i oedolion a fyddai wedi gadael ysgol heb unrhyw gymwysterau o gwbl, trwy ei gyfnod fel coleg technegol, i’w gyfnod presennol fel sefydliad sy’n darparu addysg brifysgol o bwys, mae NEWI wedi cynnal yr ymroddiad hwnnw i ddarparu ar gyfer lles addysgiadol pobl Gogledd Ddwyrain Cymru.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr