|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr > Hanes Prifysgol Glyndwr > Gwreiddiau Brifysgol Glyndwr
|
||
|
|
Gwreiddiau NEWI
Mae gwreiddiau Prifysgol Glyndŵr yn mynd yn ôl i 1887 pan sefydlwyd addysg ôl-orfodol yn Wrecsam am y tro cyntaf. Sefydlwyd yr ysgol Wyddoniaeth a Chelf yn dilyn Adroddiad Aberdâr ar Addysg Canolradd ac Uwch yng Nghymru 1881 ac Adroddiad Samuelson ar Gyfarwyddyd Technegol 1882-4. Arianwyd yr ysgol gan ‘Arian Whisgi’, sef treth ar gwrw a gwirod, a thrwy hynny yn defnyddio un arall o brif ddiwydiannau Wrecsam: Wrexham Lager. Roedd llawer o’r cyrsiau bryd hynny yn adlewyrchu natur ddiwydiannol Wrecsam oes Fictoria, y diwydiant glofaol yn arbennig (er enghraifft adeiladu peiriannau, mwyngloddio a chemeg). Er syndod, fodd bynnag, celfyddyd oedd y pwnc mwyaf poblogaidd o bell ffordd. |
|