|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr > Hanes Prifysgol Glyndwr > Coleg Technegol Sir Ddinbych
|
||
|
|
Coleg Technegol Sir Ddinbych1939 - 1975
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth yr Athrofa Dechnegol yn Goleg Technegol Sir Ddinbych. Roedd diffyg lle wedi gwaethygu hyd yn oed gyda’r galw cynyddol am addysg dechnegol gan bobl Gogledd Ddwyrain Cymru, ac felly cafodd cynlluniau blaenorol i ehangu’r coleg drws nesaf i gampws Stryt y Rhaglyw eu newid fel y gellid adeiladu ar y campws 28 erw newydd drws nesaf i faes pêl-droed y Cae Ras. Gosodwyd carreg sylfaen Coleg Aston, fel y daeth i gael ei adnabod, gan William Aston, a chyflogwyd Saxon Smith and Partners fel penseiri. Cwblhawyd y coleg newydd erbyn mis Medi 1953 a’i agor yn swyddogol ar yr 11eg o Dachwedd 1953 gan Dduges Caerloyw. Syr Patrick Abercromby, y pensaer Lerpwl-Dulyn enwog, oedd yn gyfrifol am gynllunio tu mewn yr Athrofa, a ymddangosodd mewn nifer o gylchgronau Pensaernïol yn gynnar yn yr 1950au. Comisiynwyd Peggy Angus i gynllunio teils addas ar gyfer y prif gyntedd. Roedd y rhain yn unigryw i’r Coleg ac yn cynrychioli llif o addysg gyda chefndir Cymreig. Mae’r teils yn dal yma heddiw ac wedi’u diogelu gan restriad Gradd II. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i grefftwyr medrus yr Ysgol Gelf a Dylunio wneud copi bob tro y difrodir un o’r teils. |
|