|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr > Hanes Prifysgol Glyndwr > Coleg Cyswllt Prifysgol Cymru
|
||
|
|
Coleg Cyswllt Prifysgol Cymru1993 – 2002
Yn 1993 daeth NEWI yn sefydliad addysg uwch ymgorfforedig. Roedd hyn yn golygu fod ei holl ddarpariaeth addysg bellach (Diplomâu Cenedlaethol Cyffredinol ayb) yn cael ei throsglwyddo i Goleg Iâl, tra bod NEWI yn cadw addysg uwch graddau a Diplomâu Cenedlaethol Uwch. Roedd ymgorffori hefyd yn golygu fod coleg AB newydd yn cael ei sefydlu ar hen safle Coleg Kelsterton o’r enw Coleg Glannau Dyfrdwy. Hyd at 1993 roedd NEWI wedi bod yn cynnig nifer o raglenni gradd gyda chymwysterau o Brifysgol Salford, yr oedd NEWI wedi datblygu perthynas dda gyda hi. Ar ôl ymgorffori, canolbwyntiodd NEWI ar gynnig graddau o Brifysgol Cymru a daeth yn Goleg Cyswllt o’r Brifysgol gyda chynrychiolaeth ar gorff llywodraethol y Brifysgol. Tyfodd y nifer a’r amrywiaeth o gyrsiau yn sylweddol yn ystod y cyfnod yma wrth i NEWI ymateb i farchnad newidiol i’w myfyrwyr. Yn ogystal, fe weithiodd yn agos iawn gyda phartneriaid diwydiannol a dod yn un o aelodau sefydlol Canolfan TCS Cymru, yn darparu busnesau bychain gyda’r arbenigedd a’r staff angenrheidiol i ymgymryd â phrojectau datblygu pwysig. Mae gwaith NEWI yn y gymuned leol wedi cryfhau mwy gydag ymglymiad yr Athrofa wrth Ŵyl Wyddoniaeth Ryngwladol Wrecsam, yr ŵyl fwyaf o’i bath ym Mhrydain ac yn gyfle gwych i hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o wyddoniaeth. Yn 2001, cymerwyd yr awenau yn NEWI gan dîm Uwch Bwyllgor Gwaith newydd dan y Prifathro a’r Prif Weithredwr newydd, yr Athro Michael Scott. Mae hyn wedi cyd-fynd â hyrwyddiad y llywodraeth o’r polisi o ehangu cyfranogiad, syniad a weithredwyd yn frwdfrydig iawn gan holl staff NEWI. Mae NEWI wedi cael ei ganmol yn aml gan arweinyddion gwleidyddol a chymdeithasol am ei gyfraniad mawr tuag at gael gwared ag elitiaeth a gwneud addysg uwch yn agored i bawb. Ers ei benodiad mae’r campws wedi datblygu y tu hwnt i adnabyddiaeth bron. Agorwyd canolfan animeiddio newydd ym mis Chwefror 2002 gan Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru. Dilynwyd hyn gan Stiwdio Recordio a agorwyd gan Menna Richards, Rheolwraig BBC Wales, ac Oriel Gelf newydd a agorwyd gan Jenny Randerson, Gweinidog Chwaraeon, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg. |
|