Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Athrofa Dechnegol Sir Ddinbych

1927 – 1939

Athrofa Dechnegol Sir Ddinbych

Yn 1927, daeth y dosbarthiadau gwyddonaeth a chelfyddyd yn rhan o’r Athrofa Dechnegol newydd a arianwyd gan Gronfa Les y Glowyr.

Lleolwyd yr Athrofa ar safle hen Ysbyty Wrecsam yn Stryt y Rhaglyw, ble lleolir Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru NEWI heddiw.

Wrth i’r galw am gyrsiau dyfu, estynwyd y safle ar hyd Stryt y Rhaglaw a Ffordd Bradle.

Deuai myfyrwyr i gyrsiau o bob cwr o Ogledd Cymru a siroedd Swydd Gaer a Swydd Amwythig yn Lloegr. Wrth i’r galw am lefydd dyfu, dechreuodd yr Athrofa redeg allan o le.

Datryswyd y broblem gan ddyn busnes o Wrecsam a llywodraethwr yr Athrofa, William Aston, yr enwyd prif neuadd campws Plas Coch ar ei ôl.  Rhoddodd ganiatâd i’r Athrofa ddefnyddio nifer o gytiau yn Caxton Place, gyferbyn â champws Stryt y Rhaglaw.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr