Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru

1975 – 1993

Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru

Gydag ad-drefnu llywodraeth leol a’r galw parhaus am addysg o safon uchel, buan y daeth yn angenrheidiol i gyfuno tri phrif goleg Sir Clwyd – Coleg Technegol Sir Ddinbych, Coleg Hyfforddi Athrawon Cartrefle (wedi’i leoli yr ochr arall i Wrecsam) a Choleg Kelsterton College yng Nghei Cona ger Caer.

Daeth Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru a ddeilliodd yn sgîl hyn yn un o’r colegau mwyaf o’i fath ym Mhrydain gyda thros 9,000 o fyfyrwyr a chyllid blynyddol yn 1975 o £5 miliwn.

Tyfodd y Coleg o ran y nifer o fyfyrwyr ac o ran enw da wrth i bobl ledled y byd geisio’i arbenigedd.

Ar yr adeg yma, ymgymrodd NEWI â llawer iawn o waith rhyngwladol gan helpu i ddatblygu sefydliadau addysg megis Coleg Polytechnig Khartoum, Prifysgol Genedlaethol Lesotho a Choleg Diwydiannol Technegol Oman. Hefyd fe sefydlodd system cefnogi offer ar gyfer pob prifysgol a choleg polytechnig yn Nigeria a Phacistan.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr