Hanes Prifysgol Glyndŵr
Ysgol Wyddoniaeth a Chelf Wrecsam
1887
Sefydlu Ysgol Wyddoniaeth a Chelf Wrecsam.
Galwad gan Viriamu Jones yn yr Eisteddfod Genedlaethol i sefydlu Prifysgol Cymru.
Dywed Dr Reichel yng Nghymdeithas Genedlaethol Cymry Lerpwl: “Ni fydd gweithredu’n syth yn dod â Phrifysgol i ni yn 1887, ond fe allai wneud y dyddiad yn 1897 yn hytrach na 2007. A wnawn ni ddechrau pwyso am Brifysgol Gymreig ar unwaith neu a wnawn ni ddisgwyl rhai blynyddoedd er mwyn magu cryfder a phrofiad?”
1892
Dechrau cyflenwi addysg lefel prifysgol.
1915
Galwad gan D Lleufer Thomas yn yr Eisteddfod Genedlaethol i ehangu addysg uwch yng Nghymru i’r dosbarth gweithiol.
1924
Graddau Prifysgol Llundain mewn Gwyddoniaeth yn cael eu cynnig gan YWChW.
Athrofa Dechnegol Sir Ddinbych
1927
Symud i Gampws Stryt y Rhaglaw.
Dod yn Athrofa Dechnegol Sir Ddinbych.
1937
Cyfres darlithoedd cyhoeddus: pris mynediad 6d y ddarlith neu 2s am y gyfres.
1939
Newid yr enw i goleg Technegol Sir Ddinbych.
Cartrefle
1945
Sefydlu Coleg Hyfforddi Athrawon Cartrefle.
1953
Symud i gampws Plas Coch drws nesaf i faes Cae Ras Wrecsam.
1954
Sefydlu cysylltiadau chwaraeon gyda Choleg Caer.
NEWI
1975
Uno Coleg Technegol Sir Ddinbych, Coleg Hyfforddi Athrawon Cartrefle a Choleg Kelsterton College, Cei Cona, i ffurfio Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru.
1980s
Ehangiad sylweddol yn y nifer a’r ystod o weithgareddau rhyngwladol a ymgymerir gan NEWI. Projctau yn cynnwys sefydlu Coleg Polytechnig Khartoum, Prifysgol y Lan Orllewinol, Coleg Polytechnig Lerotholi a rhwydweithiau prifysgol yn Nigeria, Pacistan, Ghana.
1991
Ymddeoliad y Prifathro, yr Athro Glyn O Phillips. Penodi yr Athro John O Williams fel ei olynydd.
1992
Sefydlu Coleg Glannau Dyfrdwy ar hen safle Kelsterton. Holl addysg bellach yn Sir Fflint yn cael ei throsglwyddo i’r coleg newydd.
1993
Dadgyfuno – NEWI yn trosglwyddo ei addysg bellach i gyd i Goleg Iâl.
1999
Ymddeoliad yr Athro John O Williams.
2000
Campws Cartrefle yn cau.
2001
Penodi yr Athro Michael Scott yn Brifathro.
2002
Cychwyn cysylltiadau sefydliadol gyda Choleg Harris Manchester, Prifysgol Rhydychen, a Phrifysgol Georgetown, Washington DC.
2003
Ei Mawrhydi y Frenhines yn ymweld â NEWI.
2004
NEWI yn dod yn aelod llawn o Brifysgol Cymru.
2005
Ei Huchelder Brenhinol Duges Caerloyw yn ymweld â NEWI.
Prifysgol Glyndŵr
2008
NEWI yn ennill statws Prifysgol ac yn dod yn Brifysgol Glyndŵr
