Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Owain Glyndŵr

Gwireddu’r weledigaeth am sefydlu prifysgol

Owain Glyndŵr oedd un o ffigurau mwyaf carismatig ac ysbrydoledig yn hanes Cymru. Fe’i disgrifiwyd gan Shakespeare fel un ‘not in the roll of common men’, ond ychydig a wyddom amdano cyn iddo gael ei gyhoeddi’n Dywysog Cymru ym 1400. Ar ôl y dyddiad hwnnw, fodd bynnag, daw i’r amlwg fel ymladdwr dros gyfiawnder, ysgolhaig, a dyn â gweledigaeth, oedd am greu cenedl Ewropeaidd gref a chyfoes o Gymru.

Ar  31 Mawrth 1406, ysgrifennwyd llythyr hir, ffurfiol at frenin Ffrainc yn enw Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru. Yn y llythyr hwn, a elwir yn “Llythyr Pennal” ar ôl y pentref bach ger Machynlleth lle’i hysgrifennwyd, y mae Owain Glyndŵr yn gofyn am gefnogaeth Ffrainc, ac amlinella ei weledigaeth am Gymru.

Cymal mwyaf arloesol a blaengar y llythyr oedd y bwriad i sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru, un yn y gogledd a’r llall yn y de. Ar draws Ewrop yr oedd prifysgolion yn cael eu sefydlu wrth i arweinwyr cenedlaethol gydnabod pwysigrwydd prifysgolion wrth wasanaethu anghenion eu gwlad. Yr oedd yn hollol newydd, fodd bynnaf, i wlad dlawd, fel Cymru, â’i phoblogaeth fechan i ystyried cynllun mor radicalaidd.

Byddai’r ddwy brifysgol arfaethedig nid yn unig yn hyfforddi gweision sifil er mwyn sicrhau gweinyddiaeth effeithiol i Gymru, ond hefyd, yn paratoi offeiriaid am eu galwadau. Yr oedd sawl un o gynghorwyr Owain, e.e. John Trefor, Esgob Llanelwy, a’i ganghellor, Gruffydd Young, wedi derbyn addysg prifysgol, ac wedi teithio yn eang, a defnyddiasant y profiad hwn wrth gynghori Owain. Yr oedd presenoldeb dynion  o’r fath hefyd yn codi tôn ideolegol gweinyddiaeth Owain a’i fri Owain ar y llwyfan ryngwladol.

Y darlun mwyaf cyffredin sydd gan bobl o Owain Glyndŵr yw cenedlaetholwr Cymreig cynnar oedd wedi gwrthryfela yn erbyn rheolaeth y Saeson. Y mae’r gwirionedd yn llawer mwy cymhleth na hyn. Mae Owain Glyndŵr yn dod yn amlwg am y tro cyntaf oherwydd ei ddicter yn dilyn diorseddu anghyfreithlon brenin Lloegr, Rhisiart II, ac yng nghamfeddiant Harri IV o’r orsedd. Cyhoeddwyd Owain Glyndŵr yn dywysog Cymru. Yn y rôl hon, ei fwriad oedd arwain Cymru gref ac unedig, a’i thrawsffurfio’n wladwriaeth Ewropeaidd fodern.

Yr oedd yn naturiol bod Cymru’n troi at Glyndŵr yn ystod y cyfnod hwn o gynnwrf gwleidyddol mawr. Gallai hawlio iddo ddisgyn o amryw o linachau pwerus tywysogaidd Cymru. O’i gymharu â safonau Cymru ar y pryd, yr oedd Owain yn gefnog a blaenllaw, ac yr oedd ganddo diroedd yng ngogledd ddwyrain Cymru a Cheredigion. Disgrifiwyd ei lys yn Sycharth gan fardd mwyaf blaenllaw y dydd fel canolfan dysg a diwylliant. Mewn gwirionedd yr oedd Glyndŵr yn ddyn dysgedig iawn, gan iddo astudio’r gyfraith Ysbyty’r Brawdlys, Llundain.

Er yn perthyn i hen deulu Cymraeg, yr oedd teulu Glyndŵr wedi ymgyfarwyddo’n rhwydd â llywodraeth Seisnig y Gororau. Yr oedd ei dad wedi gwasanaethu Iarll Arundel fel stiward Croesoswallt, ac wedi gweithredu fel ceidwad arglwyddyddiaeth Ellesmere. Yr oedd gwraig Glyndŵr, Margaret, yn ferch i Sir David Hanmer, prif ystys mainc y Brenin oedd yn berchennog ystad yn agos i Wrecsam.

Ym 1404, galwodd Glyndŵr senedd i Fachynlleth, a oedd yn fwy cynrychioladol nag unrhyw gynulliad arall yng Nghymru. Drwy gynnull senedd genedlaethol, yr oedd Owain yn cydnabod yr angen i gyflwyno Cymru fel un uned wleidyddol a chanddi un arweinydd cenedlaethol.

Yr oedd y senedd hon, a’r seneddau dilynol a gynhaliwyd yn Harlech a Dolgellau, yn darparu cyfle i Owain i gyflwyno ei weledigaeth am lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Cynlluniwyd rhaglen eglwysig radicalaidd a fyddai’n dyrchafu Tyddewi i statws eglwys archesgob, a fyddai’n rheoli gweddill esgobaethau Cymru (Bangor, Llandaf a Llanelwy), a’r Gororau.

Dengys ei gynlluniau ymwybyddiaeth wybodus o wirioneddau gwleidyddol a chrefyddol Ewrop. Yn y llythyr ym 1406, y mae’n addo cefnogaeth i’r Pab o Ffrengig Bened XIII yn Avignon petai brenin Ffrainc a’r Pab yn ei gynorthwyo i ddatblygu eglwys Cymru. Yr oedd syniadau o’r fath, ynghyd â dealltwriaeth o ddatblygiadau gwleidyddol, yn dyrchafu Owain uwchben pob arweinydd Cymreig arall ers i’r Tywysog Cymru brodorol olaf gael ei ladd ym 1282.

Fel rhan o’i gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Cymru, ymarweddai Owain fel tywysog Ewropeaidd. Dyfeisiodd ei Sêl Fawr a’i Sêl Gyfrin ei hunan, a mabwysiadodd arfbais tywysogion Gwynedd. O’i lys o gynghorwyr crefyddol, gwleidyddol a milwrol, anfonodd lysgenhadon Cymraeg er mwyn hybu diddordebau Cymru. Trafododd y cenhadon hyn gytundeb ym Mharis gyda’r Brenin Siarl VI o Ffrainc ym mis Gorffennaf 1404 gan roi statws newydd i Gymru yng ngwleidyddiaeth y cyfandir.

Drwy gydol ei yrfa, ymddangosodd Owain urddas mawr a’r gallu cynhenid i reoli a chadw teyrngarwch. Yr oedd yn arweinydd dynion heb ei ail, ac aeth yn bellach na’r un arweinydd o Gymro arall wrth uno holl raniadau hynafol Cymru. Nodweddwyd ei deyrnasiad gan fudiad uchelgeisiol a phellgyrhaeddol, ac wrth ei wraidd, yr oedd gweledigaeth glir o Gymru gref. Diflannodd Owain ei hunan ym 1410, ac erys ei dynged yn anhysbys er y credid iddo farw ym 1416.

Gellir cofio am Owain Glyndŵr fel ffigur deinamig, tactegydd milwrol talentog, dadansoddwr gwleidyddol eang ei olygon, ac eiriolwr selog dros addysg. Gwyddai bwysigrwydd diwygio a moderneiddio, ar gyfer yr eglwys, byd addysg a’r gyfunderefn gyfreithiol. Yn Owain Glyndŵr, gwelwn wladweinydd aeddfed oedd yn ymroddedig i’r weledigaeth o Gymru fodern a fyddai’n wladwriaeth flaengar oddi mewn i Ewrop.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr