Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Ymestyn yn Ehangach

Ymestyn yn Uwch, Ymestyn yn Ehangach logo

Ymestyn yn Ehangach Partneriaeth Gogledd Cymru

Reaching Wider North Wales Partnership

“Mae gormod o bobl a allai o bosibl elwa o AU yn dal i gredu nad yw AU yn addas iddyn nhw. Mae’n rhaid i AU chwalu’r rhwystrau ymddangosiadol yma.” (Addysg Uwch a’r Wlad sy’n Dysgu, Mawrth 2002)

Y fenter Ymestyn yn Ehangach

Ar y cyd â phartneriaid lleol, mae Prifysgol Glyndŵr wedi chwarae rôl flaenllaw wrth hyrwyddo a datblygu ystod o wahanol weithgareddau Ymestyn yn Ehangach er mwyn codi ymwybyddiaeth am addysg uwch.

Mae’r fenter Ymestyn yn Ehangach yn strategaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), Cymru-eang a sefydlwyd yn 2002, i ehangu cyfranogiad a mynediad i addysg uwch, gan gefnogi cynhwysiad cymdeithasol ac uwchraddio sgiliau.

Mae’r fenter Ymestyn yn Ehangach yn canolbwyntio ar bedwar prif grŵp o bobl sy’n cael eu tangynrychioli mewn Addysg Uwch ar hyn o bryd. Y grwpiau hyn yw’r rheiny sy’n byw mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf, pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, rheiny y’n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a phobl gydag anableddau.

Gweler manylion pellach ac enghreifftiau o weithgareddau sy’n cael eu hystyried am nawdd ariannol

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Cydlynu Ardal Ymestyn yn Ehangach Area Liaison ar gyfer Gogledd Cymru


Rhif ffôn: 01352 744065

Ebost: ems613@bangor.ac.uk

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr