Mae Prifysgol Glyndŵr yn aelod o Ganolfan Ymchwil Gwastraff ac Adnoddau Cymru, a reolir gan Brifysgol Caerdydd a’i hariannu trwy Gynllun Credyd Treth Claddu Sbwriel a’r Cynulliad Cenedlaethol.
Nid yw cynhaliadwyaeth bob amser yn ymwneud â phethau amlwg; yn aml mae’n golygu meddwl am bethau mewn ffordd wahanol.
Un enghraifft o hyn yw creu maes hoci sylfaen-dŵr rhyngwladol.
Un o’r amodau a roddwyd i’r contractwyr adeiladu oedd y byddai’r pridd uchaf yr oeddynt yn ei dynnu yn cael ei ailgylchu neu’i ailddefnyddio yn hytrach na mynd i safle claddu gwastraff.
Yna cafodd y pridd uchaf ei gludo i’w ailddefnyddio mewn datblygiad tai yn ardal Wrecsam ar gyfer gwaith adfer a chreu gerddi.
Dim ond un enghraifft arall yw hyn o’r modd y mae Prifysgol Glyndŵr bob amser yn mynd ati i chwilio am ffyrdd i hybu twf o fewn y gymuned ac i gefnogi’r amgylchedd.