Ffurfiwyd Coleg Powys ym 1989 yn sgil uno colegau yn Aberhonddu, Llandrindod a’r Drenewydd. Mae prif safleoedd y coleg wedi’u lleoli ym mhob un o’r lleoliadau hyn.
Mae gan y coleg hefyd fferm ger Y Drenewydd, lleoliad addysgu ar Faes y Sioe Frenhinol ac yn defnyddio nifer o leoliadau cymunedol ar gyfer dibenion gwaith allanol gan gynnwys canolfan o bwys wedi’u lleoli ynYstradgynlais.
Yn sgil y bartneriaeth rhwng Coleg Powys a Phrifysgol Glyndŵr, mae’r coleg yn rhedeg dau gwrs gradd llawn amser wedi’u dilysu gan Brifysgol Glyndŵr – BA (Anrh) Saesneg a Hanes a BA (Anrh) Rheolaeth Busnes a TG.