Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Gynau a chyflau Prifysgol Cymru

Mae Bagloriaid a Meistri yn gwisgo gŵn sidan neu ddeunydd du o’r patrymau sy’n arferol i’r graddau hyn.

Mae doethuriaid yn gwisgo, o ran gwisg gyffredin, gŵn sidan neu ddeunydd du o’r patrwm arferol. Mewn gwisg lawn, mae Doethur mewn Athroniaeth yn gwisgo gŵn o frethyn rhuddgoch, gyda llewys llawn wedi’u troi tu chwith ar yr ymyl yn y blaen, gyda ffesinau sidan a leininau-llawes o liwiau sy’n briodol i’r Gyfadran y cafwyd y radd ynddi; mae doethuriaid eraill yn gwisgo gŵn o frethyn rhuddgoch, gyda llewys llawn wedi’u troi tu chwith ar yr ymyl yn y blaen, gyda ffesinau sidan a leininau-llawes o liwiau sy’n briodol i’r Cyfadrannau cyfatebol.  

Mae cyflau’r Bagloriaid ar ffurf Rhydychen, ac wedi’u gwneud o sidan neu ddeunydd du. Yn y Cyfadrannau i gyd, ar wahân i’r Gyfadran Feddygaeth, mae cyflau’r Bagloriaid wedi’u hemio â sidan yn y lliwiau sy’n briodol i’r Cyfadrannau cyfatebol. 

Mae cyflau’r Meistri ar ffurf Caergrawnt, ac wedi’u gwneud o sidan du. Mae cyflau’r Meistri wedi’u leinio â sidan o’r lliwiau sy’n briodol i’r Cyfadrannau cyfatebol. Yn ogystal mae cwfl Meistr mewn Doethuriaeth wedi’i hemio â rhuddgoch. Mae cwfl Meistr Ymchwil wedi’i leinio â sidan o’r lliwiau sy’n briodol i’r Gyfadran y cafwyd y radd ynddi.  

Mae cyflau Doethuriaid ar ffurf Caergrawnt. Maent wedi’u gwneud o frethyn ysgarlad, ar wahân i gwfl Doethur mewn Athroniaeth, sydd wedi’i wneud o frethyn rhuddgoch. Mae cyflau Doethuriaid wedi’u leinio â sidan o’r lliwiau sy’n briodol i’r Gyfadran y cafwyd y radd ynddi. 

Y lliwiau sy’n briodol i’r Cyfadrannau yw:

Celfyddydau neu Lythrennau

BA, MA: Glas masarin â gwyrdd trwyddo

Gwyddoniaeth

BGdd, MGdd: Lliw efydd (melyn â du trwyddo)
BSaes: Coch â gwyrdd trwyddo

Meddygaeth

BN: Gwyrdd â gwyn trwyddo, gydag ymyl coch

Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol

MBA: Coch â melyn trwyddo, gydag ymyl glas golau

Addysg

MAdd: Gwyrdd â gwyn trwyddo

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr