|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr > Beth sy’ mlaen > Graddio 2010 > Gwybodaeth i Raddedigion a’u Gwesteion
|
||
|
|
Gwybodaeth i Raddedigion a’u GwesteionMae manylion llawn am Graddio 2010 i’w cael yn ein Canllaw i Graddio 2010 (doc format) Mae cofrestru ar gyfer Diwrnod Graddio 2010 nawr wedi cau (Awst 27ain 2010).Os byddwn yn derbyn eich ffurflen ar ôl y dyddiad cau o 27 Awst 2010 ni fydd gennych hawl i gael y 2 docyn am ddim i westeion ond byddwch yn gallu prynu tocynnau gwesteion am £10 y tocyn ar-lein os oes rhai ar ôl. Bydd yn bosib prynnu tocynnau arlein o’r wythnos yn dechrau Madi 20fed 2010. Os nad ydych wedi cofrestru eich bod chi am fynychu’r Diwrnod Graddio, cysylltwch â ni yn graduation@glyndwr.ac.uk mor fuan â phosib. DyledwyrEr mwyn mynychu’ch seremoni graddio, mae’n rhaid talu pob dyled erbyn 24 Medi 2010. wirio eich statws, cysylltwch â’r adran Derbyn Cyfrifon yn yr Adran Gyllid drwy ffonio 01978 293037 neu e-bostio accountsreceivable@glyndwr.ac.uk. Tocynnau i westeionDau docyn gwadd i bob person sy’n graddio sydd yna i ddechrau arni, ac mae’r rhain yn rhad ac am ddim cyn belled â’ch bod yn llenwi ac yn dychwelyd eich ffurflen gofrestru erbyn 27 Awst 2010. Dalier Sylw: os ydych yn gofyn am fwy na 2 docyn i westeion ar eich ffurflen gofrestru yna sylwer NA fydd y cais hwn yn cael ei ystyried ac mai dim ond 2 docyn yn unig a gewch. Os oes angen tocynnau ychwanegol arnoch, yna mae’n rhaid prynu’r rhain ar-lein. Mae’r tocynnau gwesteion sydd ar ôl ar gyfer pob seremoni ar werth yn awr am £10 y tocyn. Bydd yr holl docynnau gwesteion sydd ar ôl yn cael eu gwerthu ar sail y cyntaf i’r felin. Noder hefyd na ellir sicrhau y bydd tocynnau gwesteion ychwanegol a brynir ar yr adeg yma wrth ymyl eich seddi gwesteion gwreiddiol. Cliciwch yma i brynu tocynnau ar gyfer Diwrnod Graddio Llogi Gwisg GraddioEwch i Llogi Gŵn Graddio Ede and Ravenscroft. DVD GraddioBydd DVD ar gael i’w brynu. Mae modd ei archebu o flaen llaw drwy MC Video (ewch i: http://www.mcvideo.co.uk/graduation/) neu ei archebu ar y diwrnod. Te a Chinio GraddioI archebu lle ar gyfer cinio neu de ar y diwrnod Graddio, cysylltwch â Sarah Fisher ar 01978 293494 neu e-bostiwch catering@glyndwr.ac.uk. Nwyddau GraddioBydd nwyddau personol Graddio ar gael i’w prynu ar y diwrnod neu i’w harchebu ymlaen llaw drwy ymweld â http://www.campusclothing.com/. Cywiro Eich Gwybodaeth MyfyriwrGwnewch yn siŵr fod gennym y wybodaeth gywir amdanoch cyn y graddio. Gwiriwch eich cofnod myfyriwr arlein yma. Cwestiynau Graddio EraillI gael mwy o wybodaeth am y Graddio, gweler yr adran Cwestiynau a Ofynnir yn Aml Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ynghylch graddio, anfonwch e-bost at: graduation@glyndwr.ac.uk |
|