|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr > Beth sy’ mlaen > Graddio 2010 > Datganiadau i’r wasg > Ffarmwr defaid yn heidio i gael gradd
|
||
|
|
Ffarmwr defaid yn heidio i gael gradd31 Hydref 2008
Cwblhaodd cyn ffarmwr defaid newid gyrfa llwyr pan gasglodd gymhwyster addysgu yr wythnos yma. Casglodd Sue Jones, o Gorwen, ei Thystysgrif mewn Addysg (Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol) yn seremonïau graddio Prifysgol Glyndŵr ar ddydd Iau 30 Hydref. Meddai Sue, sy’n ddarlithydd yng Ngholeg Llysfasi: “Mae wedi bod yn ddiwrnod i’w gofio. Roedd synnwyr o bresenoldeb yr achlysur yn fwy nag oeddwn i’n ei ddisgwyl hyd yn oed. “Mae’r cyfan i’w wneud â dysgu gydol oes – rydw i’n 49 erbyn hyn a dim ond yn awr yr ydw i’n cael gradd. Mae fy mab yn 19 ac yn gwneud cwrs gradd mewn mathemateg, a minnau’n graddio o brifysgol, ond mae yna synnwyr gwironeddol o fod wedi cyflawni rhywbeth, dim ots faint ydi eich oed chi. “Mae wedi bod yn waith caled astudio’n llawn amser a gweithio ond mae wedi bod yn werth chweil – mae heddiw wedi bod yn wych. “Dim ond ychydig o flynyddoedd yn ôl roeddwn yn edrych ar ôl 700 o ddefaid ar ffarm. Rydw i’n dal i gadw ychydig o foch, ieir a defaid ond mae’n rhaid i chi arallgyfeirio, symud ymlaen gyda’r oes a gwneud beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd. Bydd y cymhwyster sydd gen i’n awr o fudd mawr i mi yn y dyfodol. Gobeithio ’mod i wedi gosod esiampl dda i fy mab i fynd ar drywydd yr hyn y gallwch ei gyflawni.” Cynhaliodd Prifysgol Glyndŵr bedair seremoni wobrwyo dros gyfnod o ddeuddydd, gan gydnabod yn ffurfiol gyraeddiadau dros 1,000 o fyfyrwyr. Yn ogystal, derbyniodd graddedigion ddarn o arian coffa arbennig i nodi’r seremonïau gwobrwyo cyntaf yn y Brifysgol, a ffurfiwyd ym mis Gorffennaf pan roddwyd statws prifysgol llawn i Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru. Meddai’r Athro Michael Scott: “Llongyfarchiadau i bawb ar eu cyraeddiadau. Rwy’n falch o allu dathlu llwyddiant gyda’n graddedigion i gyd, a chydnabod y gwaith caled y mae pob unigolyn wedi ei wneud i gyflawni eu graddau. “Ein graddedigion yw’r dyfodol, gweithle’r dyfodol ar gyfer yr economi leol, rhanbarthol, cenedlaethol a’r byd. Pa gyfeiriad bynnag y bydd eu gyrfaoedd yn mynd ar ôl heddiw, rwy’n dymuno’r gorau iddynt.” |
|