Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Mewnwelediad i Ymddygiad Bleiddiaid o du mewn i’r Haid

Shaun Ellis

Dydd Iau 8 Gorffennaf 2010, 7.30pm

Prifysgol Glyndŵr, Safle Plas Coch, Wrecsam

Main text

Fel seren y rhaglen ddogfen The Wolfman ar Channel 5, mae’r arbenigwyr ar ymddygiad bleiddiaid Shaun Ellis wedi dysgu am ymddygiad corfforol a seice bleiddiaid a’r modd y maent yn cyd-dynnu a chydweithio - trwy fyw gyda nhw.

Yn 2005, ysgogwyd Shaun gan dri cenau blaidd amddifad i fentro magu haid o fleiddiaid mewn caethiwed trwy fyw gyda nhw...fel blaidd, gan eu haddysgu trwy esiampl sut i fyw yn y gwylltiroedd.

Yn sgil ei brofiad o fod yn rhan annatod o haid o fleiddiaid, a chael rôl benodol o fewn y grŵp, mae ganddo fewnwelediad unigryw i un o’r modelau mwyaf cymhleth o ymddygiad grŵp.

Yn y sgwrs fanwl yma, bydd yn helpu i egluro sut beth oedd gweithio gyda’r bleiddiaid o du mewn i’r haid a’r modd y maent yn byw a helpu ei gilydd. 

Yn sgil profiad Shaun, bydd yn eich arwain trwy ei fewnwelediadau i ymddygiad haid ac yn rhoi ei syniadau amgenach i chi ynghylch sut i drafod eich anifeilaid eich hun.

Yn ogystal â The Wolfman, mae Shaun Ellis hefyd wedi ymddangos mewn dogfen ddiweddar ar ITV1 am linach cŵn anwes, wedi’i chyflwyno gan Martin Clunes.

Darllenwch fwy am y modd y datblygodd perthynas unigryw Shaun Ellis gyda bleiddiaid

DIGWYDDIAD AM DDIM

I archebu lle, ebostiwch wsf@glyndwr.ac.uk neu ffoniwch 01978 293466

Bywgraffiad - Shaun Ellis

Fel plentyn yn tyfu mewn cymuned ffermio wledig, nid oedd yna lawer o blant eraill o gwmpas i Shaun ymwneud â nhw.  

Parodd y diffyg grŵp cyfoedion yma iddo droi at fywyd gwyllt cefn gwlad am gyfeillgarwch. Teimlai’n gartrefol yn y goedwig yn y nos a dysgodd sut i ddefnyddio ei synhwyrau ogleuo a chlywed i ddod o hyd i’w ffordd yn y tywyllwch.

Daeth Shaun yn agos at y moch daear a’r llwynogod, a chyn bo hir roeddent wedi ymlacio ac yn eofn yn ei bresenoldeb. Cafodd yr anrhydedd o gael gwylio eu grwpiau teuluol ac astudio eu hymddygiad. 

Yn ystod y blynyddoedd i ddod, talodd penderfyniad a dyfalbarhad Shaun ar eu canfed pan ganiataodd cyfarfyddiad ar hap gyda biolegydd o Americanwr Brodorol mewn seminar ar fleiddiaid iddo fynd yn wirfoddolwr. Ymunodd â phrosiect astudio bleiddiaid wrth odre’r Mynyddoedd Creigiog yn Idaho.

Tra’n gweithio yn Idaho mewn hyd at dair troedfedd o eira y sylweddolodd Shaun mai’r ffordd orau o ddysgu am fleiddiaid oedd trwy ddychwelyd i’w blentyndod a byw ochr yn ochr â nhw.
 
Esblygodd ei astudiaethau wrth iddo ddechrau cofnodi udo bleiddiaid gwyllt yn y coed, gan ddefnyddio offer recordio yn y nos mewn eira a thywydd rhewllyd, ac yna’n eu chwarae’n ôl drosodd a throsodd drannoeth.

Yn sgil yr astudiaeth uniongyrchol yma, y mae wedi dysgu sut i gyfathrebu â’r bleiddiaid ac amddiffyn ei hun trwy sawr a synau. Mae’n deall sawr-farciau yn ogystal â’r gwahanol udiadau i amddiffyn a galw.   

Mae Shaun yn gysylltiedig â nifer o brosiectau ymchwil yng Ngwlad Pwyl a Pharc Cenedlaethol Yellowstone, gyda’r nod o ddatblygu dulliau dyngarol o annog bleiddiaid i beidio â chael eu hunain mewn sefyllfaoedd o wrthdaro posibl gyda phobl.

Shaun yw awdur The Wolf Talk (2003) a Spirit of the Wolf (2005).

Mae’n parhau i weithio gyda bleiddiaid mewn caethiwed yn Combe Martin, Dyfnaint, Lloegr ac yn parhau i gynnal astudiaeth fanwl i ymddygiad bleiddiaid.

Mae Shaun a’i gydweithwyr yn darganfod ochrau newydd i’r creaduriaid cyfareddol hyn trwy’r amser.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr