Mae’r cyflwynydd teledu Johnny Ball wedi bod yn siarad â chynulleidfaoedd am fathemateg a gwyddoniaeth ers dros 30 mlynedd.
Mae ei sgyrsiau yn edrych ar hanes gwyddoniaeth – sut a pham y gwnaeth pobl athrylithgar fel Einstein, Syr Isaac Newton, Nikola Tesla ac Archimedes eu darganfyddiadau enwocaf – yn ogystal â rhoi cip ar fyd gwyddoniaeth cyfredol ac yn y gorffennol.
Yng nghyfnod Isaac Newton, dim ond dyrnaid o athrylithoedd oedd yna, ond erbyn heddiw mae yna filoedd ym mhob maes o wyddoniaeth a thechnoleg, a miloedd lawer yn ychwaneg o bosibl ymhlith plant ysgol yr oes sydd ohoni.
Mae 'Gorffennol Amherffaith, Dyfodol Ffantastig' yn canolbwyntio ar y dyfodol cadarnhaol sydd o flaen gwyddonwyr cyfredol a’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr.
Heddiw, mae’r hen a’r ifanc fel ei gilydd yn clywed straeon prudd a digalon ynghylch y modd y mae dyn yn difrodi’r ddaear. Mae hyn yn dueddol o ysgogi ofn yn hytrach na chyfleu gwybodaeth neu roi darlun cywir o gyflwr pethau go iawn.
Yr ydym yn faich anferthol ar y ddaear, ni ellir gwadu hynny. Ac eto mae yna gymaint o enghreifftiau o’r modd yr ydym yn gwella pob agwedd ar ein heffaith ar a’n gofal o’r ddaear a phopeth sydd ynddi.
Roedd holl enwau gwyddonol mawr y gorffennol yn ffyddiog a gobeithiol ynghylch ein dyfodol, ac yn ei sgwrs bydd Johnny yn cyfleu y gobaith hwnnw.
DIGWYDDIAD AM DDIM
I archebu lle, ebostiwch wsf@glyndwr.ac.uk neu ffoniwch 01978 293466