Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Pam fod e=mc²?

Yr Athro Jeff Forshaw

Dydd Mawrth 6 Gorffennaf 2010, 7.30pm

Prifysgol Glyndŵr, Safle Plas Coch , Wrecsam

Main text

Mae E=mc² yn seiliedig ar lyfr arloesol yr Athro Jeff Forshaw o’r un enw a ysgrifennwyd ar y cyd â’r Athro Brian Cox, cyflwynydd y gyfres BBC, Wonders of the Solar System.

Bydd yr Athro Forshaw yn cyflwyno taith ddadlennol i ffiniau gwyddoniaeth yr 21ain ganrif er mwyn ystyried y gwir ystyr tu ôl i ddilyniant eiconig y symbolau sy’n llunio hafaliad enwocaf Einstein, E=mc².

O ddatgymalu’r symbolau eu hunain, mae’r hafaliad yn gosod cyfres o gwestiynau: Beth yw ynni? Beth yw màs? Beth sydd gan gyflymder goleuni i’w wneud ag ynni a màs?

Ateb y cwestiwn hwn sydd wrth wraidd yr ymchwiliad wrth iddo ddangos sut, er mwyn gwirioneddol ddeall pam fod E=mc², mae’n rhaid inni yn gyntaf ddeall pam bod yn rhaid inni symud ymlaen mewn amser ac nid am yn ôl, a sut y mae gwrthrychau yn ein byd 3-dimensiwn wir yn symud mewn gofod-amser 4-dimensiwn: mewn geiriau eraill, sut y mae union wead ein byd wedi’i greu.

Mwy am yr Athro Jeff Forshaw

DIGWYDDIAD AM DDIM

I archebu lle, ebostiwch wsf@glyndwr.ac.uk neu ffoniwch 01978 293466

Ymchwil yr Athro Jeff Forshaw

Mae diddordebau ymchwil yr Athro Jeff Forshaw yn cynnwys ffenomenoleg ffiseg gronynnau elfennol – ceisio deall beth mae’r data o arbrofion ffiseg gronynnau’r byd yn ei ddweud wrthym am gyfansoddion sylweddol mater a’u rhyngweithio â’i gilydd. Mae ei ddiddordeb penodol yn ffiseg y Model Safonol a Thu Hwnt. Y mae ganddo hefyd ddiddordeb mawr mewn gwasgaru ynni uchel mewn QCD a ffiseg diffreithiant.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr