Text begins here:
Datblygiadau Newydd mewn Ymchwil a Chynnyrch Gymiau Acasia
Llun 20 – Mercher 22 Medi 2010
Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, Cymru, y DU
Galw am grynodebau: dylai arbenigwyr sy’n dymuno cyfrannu at unrhyw un o’r pynciau a nodwyd gyflwyno crynodeb 250-gair i’w ystyried gan y Pwyllgor Trefnu.
Mae yna gyfleoedd nawdd ar gael ar gyfer cwmnïau defnyddwyr a chynhyrchwyr gwm arabig: Manylion gan yr Athro Phillips (phillipsglyn@aol.com).
Ewch ati i ddysgu popeth sydd yna i wybod am y GWM ARABIG.
Strwythur
Bydd y diprwyon yn cyrraedd ar 20 Medi am Sesiwn Agoriadol a fydd yn cynnwys Darlith Hyglod, gyda derbyniad coctel a chinio i ddilyn.
Dyddiau 2 a 3: rhaglen lawn o gyflwyniadau yn cwmpasu’r pynciau a restrir isod.
Noson gymdeithasol ar ddiwedd yr 2il ddiwrnod 2: Cinio a Chyngerdd gyda Chôr Meibion Cymreig blaenllaw.
Bydd yna gyfle am gyflwyniadau am ddim, a dylid cyflwyno crynodebau.
1. Y Cyflenwad
Yr agwedd newydd at Ansawdd, Ffynonellu a Hyfforddiant yn y system cynhyrchu cychwynnol. Materion yn ymwneud â chyflenwi a chynaliadwyedd, gyda chyfraniadau o’r:
- Swdan
- Nigeria
- Cenia
- Tsiad
2. Y Deunydd
- Statws rheolaethol newydd fel Ychwanegyn Bwyd. Bwyd a Chynhwysyn Bwyd, Deietegol.
- Ffibr o Werth Caloriffig Isel (1.7Kcal/g).
- Strwythur – wedi’i ddatrys yn derfynol erbyn hyn? Strwythur disg yr arabinogalactan; strwythur “plethwaith” cronellog y protein arabinogalactan.
- Genynnau synthetig ar gyfer cynhyrchu proteinau arabinogalactan newydd sbon.
- Strwythur – swyddogaeth – ar gyfer defnyddiau penodol: Seyal neu Senegal? Sesiwn am nodweddion ffisegol a chemegol gwm arabig sy’n rheoli’r effeithiolrwydd mewn defnyddiau penodol.
- Emylsiad: Caenu defnyn o olew neu saim gyda gronyn o brotein.
- Crynhoad o liw, blas, olewon hanfodol; cyfansoddiadau aromatig fitaminau, rhin planhigion ac ati; ffurfio haen galed er mwyn atal ocsidyddion rhag treiddio, gyda’r potensial o rwymo i’r matrics.
- Glyniad: Pobi ar gyfer topins a sgleiniau ac er mwyn atal siwgr rhag crystaleiddio a phapur i lyniad papur (stampiau a phapurau sigaréts).
- Rheolaeth Hydradu a Gwead: fisco-elastigedd a chadwyni’n cordeddu.
- Modwlws elastig: Gwm cnoi a melysion megis jiw-jiws, pastiliau a losin gwm: amsugniad dŵr uchel.
- Ffurfio Strwythur a Sefydlu Ewyn: mewn malws melys ac effeithiau topins wedi’u chwipio “llenni lês” mewn cwrw.
- Nodweddion rheolegol arwynebol: Dosbarthu saim ac amnewid saim: dresins salad ac ati.
- Defnyddiau a thechnoleg gysylltiedig mewn cynhyrchu gwin.
- Defnyddiau technegol – mewn delweddu ac ati.
Fforwm Cynnyrch Newydd: cyfle i gyflwyno cynnyrch perchenogol masnachol newydd gyda chyflwyniadau gan gwmnïau gwadd.
3. Y Farchnad
- Safle gwm arabig mewn perthynas â’r farchnad hydrocoloidau bwyd.
- Ymddangosiad ffibr deietegol mewn perthynas ag anghenion maethol cyfredol.
- Emylsiadau cymhleth, fitaminau arbenigol a diodydd archfarchnadoedd.
- Amnewid protein llaeth a gelatin.
- Porthiant anifeiliaid.
4. Heriau diwydiannol
- o’r goeden i’r defnyddwyr cynnyrch: gwm gwyrdd
- problemau difwyno rhywogaeth
- prosesu, problemau hidlo a niwed wrth storio
- agreg/niwed trwy chwistrell-sychu
- osgoi lliwiad – neu gael gwared ar liwiad?
Ffioedd y gynhadledd
I ddirprwyon cwmni/diwydiannol, bydd ffi’r gynhadledd yn £415 o bunnoedd sterling ac yn £285 o bunnoedd sterling i gyfranogwyr academaidd. £75 o bunnoedd sterling i fyfyrwyr uwchraddedig.
Bydd y Trafodion yn cael eu cyhoeddi a bydd pob cyfrannog sy’n talu ffi yn derbyn copi o’r llyfr. Mae ffi’r gynhadledd yn cynnwys y derbyniadau coctel, y ddau ginio gyda’r nos, cinio canol dydd ar y ddau ddiwrnod a choffi yn ystod y cyfarfodydd.
I’r dirprwyon sy’n talu, bydd ffi’r gynhadledd hefyd yn cynnwys Aelodaeth o’r Sefydliad Hydrocoloidau Rhyngwladol am y flwyddyn gyntaf.
Llety i ddirprwyon
Gofynnir i’r cyfranogion archebu eu gwestai eu hunain, ond bydd prisiau blaenoriaethol is ar gael ar gyfer y gwestai hwylus a gymeradwyir, ac mae’n bosibl y bydd rhywfaint o letyau myfyrwyr ar gael hefyd. Bydd yr Ysgrifennydd ar gael i roi manylion.
Y maes awyr rhyngwladol mwyaf cyfleus yw Manceinion, a threfnir cludiant i leoliad y gynhadledd yn Wrecsam (tua 45 munud).
Gwybodaeth bellach
Am fanylion pellach cysylltwch â’r:
Athro Glyn O. Phillips (phillipsglyn@aol.com)
Yr Athro Peter Williams (p.a.williams@glyndwr.ac.uk)
Dr Saphwan Al-Assaf (s.alassaf@glyndwr.ac.uk)
Ysgrifennydd y Gynhadledd: Haydn Hughes (h.hughes@glyndwr.ac.uk)
Am wybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod neu am gyfleusterau cynhadledd neu logi ystafelloedd cysylltwch â:
Haydn Hughes Rhif ffôn: (01978) 293565 Ebost: h.hughes@glyndwr.ac.uk
|