Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

'Capturing the Patient Story' - Cynhadledd y Proffesiynau Iechyd

21 Mehefin 2010

Canolfan Gynadledda Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam

Cost: £25 y pen i dalu am fwyd a lluniaeth. A wnaiff myfyrwyr a phobl ar incwm isel gysylltu â chadeirydd y gynhadledd am gonsesiynau Alex Carson

Trefnwyd y gynhadledd ar y cyd gan Brifysgol Glyndŵr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chynghrair Ymchwil Gwasanaethau Iechyd Gogledd Cymru ac y mae wedi ei hanelu at staff yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol ac academaidd.

Amcanion

  • Rhannu profiadau am ddefnyddio straeon cleifion mewn ymchwil, addysg ac ymarfer
  • Edrych ar werth straeon cleifion mewn ymarfer proffesiynol
  • Dechrau datblygu cymuned o ymarfer yn y defnydd o straeon cleifion
  • Gosod naratifau yn y cyd-destun ymchwil a chlinigol cyfredol

Y Rhaglen

9.30               Coffi a Chofrestru – Canolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam 
10.00 Sylwadau Agoriadol – Gill Gilvani – Cyfarwyddwraig Nyrsio – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr BCUHB)
10.15 Herio Rhagdybiaethau – Y Parchedig Wynne Roberts, Debbie a Charlotte Pace -BCUHB
10.45-11.15 Lansio Fframwaith Straeon Cleifion BCUHB –Diane Henderson - BCUHB
11.15-11.30 Egwyl coffi
11.30-12.00 Prosiect StoryBank – Defnyddio Straeon Digidol i ddal profiad y cleifion yng ngwasanaethau geneteg canser Cymru (CGSW) - Lisa Mundy – Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd
12.00-12.30 Byw gyda Phoen Cronig – Hanes Dioddefgarwch Dr Kath Clarke- BCUHB
12.30-13.15 Cinio
13.15-14.15 Delweddu’r Anweledig – Artistiaid yn Gweithio ym maes Iechyd Meddwl (ac Arddangosfa) Karen Heald - Prifysgol Salford /BCUHB/ Prifysgol Glyndŵr
14.15-14.45 Dal Stori’r Claf: archwiliad o’i rôl a’r potensial i gyd-greu iechyd a gofal iechyd - Jacqueline Fitzgerald Prifysgol Glyndŵr/BCUHB
14.45-15.45 Egwyl coffi, Sesiwn Lawn ac Atborth

I archebu lle, a wnewch chi ddychwelyd y wybodaeth archebu a’r siec (taladwy i Brifysgol Glyndŵr), neu nodwch yn glir os ydych yn dymuno derbyn anfoneb, erbyn y 14eg o Fehefin 2010.

Gyda’ch siec, anfonwch eich enw, manylion cyswllt (nodwch os nad ydych eisiau i’ch manylion cyswllt ymddangos ar y rhestr ddirprwyon) ac unrhyw ofynion arbennig at:

Alex Carson, Prifysgol Glyndŵr, Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AW.
Ffôn: 01978 293116
Ffacs: 01978 290008
Fel arall ebostiwch a.carson@glyndwr.ac.uk

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr