Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Côr Cymunedol Prifysgol Glyndŵr

Cor cymunedol with pic
Sefydlwyd Côr Cymunedol Prifysgol Glyndŵr yn 2009 o ganlyniad i sgwrs rhwng Dr Peter Litman ac Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Michael Scott.

Y mae’n gôr mynediad agored heb glyweliadau sy’n denu ei aelodau o blith myfyrwyr a staff y Brifysgol, a’r dref a’r gymuned ehangach.

Mae yna ryw 80 o gantorion yn y côr, sy’n perfformio gydol y flwyddyn. Fel arfer mae eu cyngerdd gwanwynol yn cynnwys unawdwyr proffesiynol a cherddorfa.

Bydd aelodau dethol o’r côr hefyd yn perfformio mewn seremonïau graddio ac achlysuron eraill y brifysgol.
 
Ar hyn o bryd, cynhelir ymarferion ar nos Fawrth rhwng 5.30pm-7.30pm yn Neuadd William Aston Hall ar y prif gampws yn ystod y tymor.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Dr Peter Litman trwy ebostio p.litman@glyndwr.ac.uk.

Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr