Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk

Beth sy’ mlaen

I weld rhestr o ddigwyddiadau’r Brifysgol – comedi, pantomeim, cynadleddau, sgyrsiau a darlithoedd, cerddoriaeth fyw a llawer mwy, ewch i’n swyddfa docynnau ar-lein.

Darlithoedd cyhoeddus

Mae ein darlithoedd cyhoeddus yn agored i bawb ac mae mynediad iddynt YN RHAD AC AM DDIM!

Mae’r darlithoedd yn gyfle i wrando ar rai o siaradwyr cyhoeddus enwocaf a mwyaf difyr y Deyrnas Unedig, ar destunau sydd o ddiddordeb bob dydd – yn amrywio o’r teledu a’r cyfryngau i wyddoniaeth, chwaraeon, gwleidyddiaeth ac addysg.

Yn 2010, roedd y siaradwyr yn cynnwys yr Athro Fonesig Jocelyn Bell Burnell, Johnny Ball, yr Athro Jeff Forshaw a Shaun Ellis. Mae siaradwyr eraill yn y gorffennol wedi cynnwys y Fonesig Tanni Grey-Thompson, Carol Thatcher a Philippa Forrester. 

Pwy hoffech chi eu clywed yn un o Ddarlithoedd Cyhoeddus Prifysgol Glyndŵr?

Rydym bob amser yn croesawu awgrymiadau ar gyfer ein darlithoedd. Os oes yna bwnc yr hoffech wybod mwy amdano neu siaradwr y byddech wrth eich bodd yn gwrando arno/arni, yna cysylltwch â ni ar 01978 293931 neu e-bostiwch eventsupport@glyndwr.ac.uk

Cyfres Darlithoedd Agoriadol ac Athrawol Prifysgol Glyndŵr

Mae Cyfres Darlithoedd Agoriadol ac Athrawol Prifysgol Glyndŵr am arddangos a chlodfori llwyddiannau academaidd staff athrawol y Brifysgol.

Mae croeso i bawb ddod i’r darlithoedd hyn ac maent yn rhad ac am ddim. Mae ganddynt ran bwysig wrth amlygu ymchwil a meddwl blaenllaw a dod â hwy i sylw’r gymuned ehangach i’w trafod a’u dadlau.

Bydd yr holl ddarlithoedd yn dechrau am 7.00pm yn Theatr Nick Whitehead, Prifysgol Glyndŵr, ac yna ar ôl y ddarlith bydd derbyniad bychan lle gallwch gwrdd â’r siaradwr a thrafod pwnc y noson.

I weld rhestr o ddarlithoedd diweddar, cliciwch yma.
Ynglyn a Phrifysgol Glyndwr
Bookmark and Share