
Croeso!
Diolch am eich diddordeb yn nyddiau agored Prifysgol Glyndŵr.
Rydym yn cynnal nifer o ddyddiau agored gydol y flwyddyn er mwyn rhoi syniad i chi o sut beth yw astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Cynhelir ein diwrnod agored nesaf Ddydd Sadwrn, Mehefin 1 2013 o 10am a gobeithiwn y gallwch ei fynychu. Er mwyn dynodi eich diddordeb ynddo neu sicrhau eich lle, gallwch wneud hynny trwy lenwi ein ffurflen archebu ar-lein.
Mae ein dyddiau agored ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais i Brifysgol Glyndŵ, neu sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am yr hyn sydd gennym i’w gynnig a’r rhaglenni gradd sydd ar gael yma.
Beth i’w ddisgwyl mewn diwrnod agored
- Bydd ysgolheigion o bob cwrs wrth law i drafod eu rhaglenni gyda chi
- Archwiliwch y campws eich hun neu ewch ar daith campws dywysedig
- Gwelwch rai o’n cyfleusterau fel Canolfan y Diwydiannau Creadigol
- Bydd ein labordai peirianneg yn agored, gwelwch ein dynwaredwr hedfan a’n labordai ceir rasio
- Ymwelwch â’n bar myfyrwyr newydd – Clwb y Canmlwyddiant a gweld beth sydd gan Wrecsam i’w gynnig – chwaraeon, siopa, bywyd nos, celf, adloniant a mwy!
- Sgyrsiau am ein llety – dysgwch beth sydd angen i chi ei wybod
- Cyngor ac arweiniad un-i-un am ffioedd a chyllid myfyrwyr
Amseroedd diwrnod agored
10am: Cofrestru yn y prif gyntedd (nid oes rhaid cyrraedd am 10am, felly ni ddylai ymwelwyr deimlo dan bwysau i frysio)
10am-2pm: Bydd ysgolheigion o bob maes pwnc ar gael i siarad ag ymwelwyr yn unigol, ac mewn rhai achosion yn cynnig trafodaethau grŵp a theithiau o amgylch y cyfleusterau. Lleoliad y meysydd pwnc i’w cadarnhau (ond wedi’u lleoli yn bennaf yn y llyfrgell, y prif adeilad, Canolfan y Diwydiannau Creadigol ac Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru).
11am, 12pm ac 1pm: Sgyrsiau/teithiau llety yn cychwyn o Ddarlithfa A Canolfan Edward Llwyd.
10am (a phob 20 munud, tan 1.20pm): Teithiau campws, yn cychwyn o Ddarlithfa John Troth.
Cyfleusterau agored eraill: Canolfan y Diwydiannau Creadigol, Canolfan y Plentyn, y Teulu a Chymdeithas, Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru, labordai Peirianneg (gan gynnwys dynwaredwr hedfan), Canolfan Cyfansoddau Uwch, Prifysgol Glyndŵr Llaneurgain (bydd cludiant bws mini ar gael os bydd ymwelwyr angen ei ddefnyddio).
Sut i ddod o hyd i ni
Gweler ein tudalen gwybodaeth ymwelwyr yma
Unrhyw gwestiynau am y diwrnod agored?
Cysylltwch â’n tîm derbyn trwy ffonio 01978 293439 neu ebostio enquiries@glyndwr.ac.uk, buasem yn falch o helpu.
Yn y cyfamser, darganfyddwch fwy am fywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr trwy ymweld â’n rhith-daith yma, gan ein dilyn ar Twitter @glyndwruni neu’n ‘hoffi’ ar Facebook.
Dyddiau agored i ddod
Dydd Sadwrn, Awst 17 2013. Mwy o wybodaeth i ddilyn.



