Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Rhesymau dros ddewis Glyndŵr University

Ein Hysgolion i Israddedigon a Graddedigion

Pan fyddwch yn ymuno â Phrifysgol Glyndŵr fel myfyriwr/wraig israddedig, byddwch yn cofrestru fel aelod o’r Ysgol ar gyfer Astudiaethau Israddedig. Mae’r Ysgol ar gyfer Astudiaethau Israddedig yn gymuned sy’n canolbwyntio arnoch chi. Yma, byddwch yn derbyn y gefnogaeth sydd arnoch ei hangen yn ystod eich amser yn y brifysgol, a’r gefnogaeth i gyflawni eich potensial.

Mae Ysgol Raddedigion Prifysgol Glyndŵr yn gymuned ar gyfer holl fyfyrwyr uwchraddedig y Brifysgol a’r nifer fawr o aelodau staff y Brifysgol sy’ eu cefnogi.

Mae ein graddedigion yn cael swyddi

Mae gan raddedigion Prifysgol Glyndŵr gofnod rhagorol o gyflogadwyedd. Yn 2010, chwe mis ar ôl gadael Prifysgol Glyndŵr, roedd 94.7% o’n graddedigion oedd ar gael i weithio wedi mynd ymlaen i yrfa neu astudiaeth uwch, neu’r ddau. *

Lefel uchel o gymorth i fyfyrwyr

Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymfalchïo yn ei rwydwaith ardderchog o gymorth i fyfyrwyr, sy’n cynnwys gwasanaeth gyrfaoedd gwych, tîm o gynghorwyr proffesiynol, a darlithwyr sy’n rhoi’r holl sylw unigol y mae myfyrwyr ei angen.

Mae maint campws Prifysgol Glyndŵr yn golygu ei bod yn hawdd i fyfyrwyr wneud ffrindiau, nid dim ond o fewn eu grŵp ond trwy’r Athrofa, ac mae grwpiau darlithoedd a thiwtorialau llai o’u cymharu â phrifysgolion eraill yn golygu fod myfyrwyr yn gallu cael cefnogaeth ac arweiniad unigol.

Cymorth arannol

Mae Prifysgol Glyndŵr yn gallu cynnig ystod o fwrsarïau a chymorth ariannol sy’n golygu ei bod yn bosib na fydd yn rhaid i chi dalu’r ffi lawn trwy astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr. Mae yna hefyd gymorth ariannol ar gyfer costau byw y gallech fod yn gymwys amdano.

Fe allai ffioedd hyfforddi myfyrwyr rhan-amser gael eu talu o dan Gynllun Dileu Ffioedd y Cyngor Cyllido.

Gwiriwch y manteision ariannol o astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr neu ffoniwch dîm Cyngor ac Arweiniad Lles Prifysgol Glyndŵr ar 01978 293547/293548 i siarad gyda chynghorydd am y cymorth ariannol y gallech fod â hawl arno.

Cyfleusterau’r campws

Cyfleusterau rhagorol yn cynnwys man celfyddydau perfformiadol newydd, cae hoci o safon rhyngwladol, stiwdio radio, labordy gêmau cyfrifiadurol, cyfleusterau newydd yn Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru a chanolfan Dylunio, Technoleg a Chyfryngau arfaethedig.

Mae campws Plas Coch yn hunangynhwysol gyda’r holl gyfleusterau a ddisgwylir eu cael mewn unrhyw brifysgol. Mae’r cyfleusterau ar y campws yn cynnwys canolfan adnoddau dysgu a llyfrgell fodern helaeth; cyfleusterau TG rhagorol gan gynnwys mynediad i WiFi Wireless; Canolfan Chwaraeon gyda chae chwarae pob tywydd â llifoleuadau a Stadiwm Hoci Rhanbarthol Gogledd Cymru, llety myfyrwyr ac undeb myfyrwyr.

Mae yna hefyd amrywiaeth o gyfleusterau astudio cwrs-benodol gan gynnwys Labordy Perfformio Dynol; stiwdios theatr; stiwdio recordio; oriel gelf; cyfleusterau peirianneg; swît sîn troseddu ar gyfer y rhaglenni gwyddoniaeth fforensig a chlinig meddygaeth Dsieineaidd.

Yn ogystal, mae campws Stryt y Rhaglaw yn gartref i Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru ble mae yna weithdai helaeth ar gyfer yr holl arbenigeddau celf a addysgir ym Mhrifysgol Glyndŵr. Mae’r rhain yn cynnwys gweithdai animeiddio, ystafelloedd tywyll; gweithdai coed; mannau dylunio; gweithdai cerameg gan gynnwys mannau gwydro a gweithfannau corchenwaith; gweithdai gemwaith a metel sy’n cynnwys ystafelloedd odyn; cilfachau weldio a man gweithio allanol gyda chanopi ategol sy’n darparu lle ar gyfer weldio. 

Llety am bris rhesymol ar y campws a pharcio am ddim ar y campws.

Cyfleoedd i bawb

Ym Mhrifysgol Glyndŵr yr ydym yn sylweddoli nad yw ein myfyrwyr i gyd yn 18 oed ac yn dod yn syth o’r chweched dosbarth neu goleg. Mewn gwirionedd, mae 54% o’n graddedigion llawn-amser dros 21 yn dod yma a 17% dros 40.

Mae llawer o’n myfyrwyr wedi cael eu hysbrydoli i fynd i addysg uwch o ganyniad i’w profiad a’u potensial i ddysgu. Maent yn gobeithio hybu eu gyrfa neu hyd yn oed newid eu gyrfa. Ym Mhrifysgol Glyndŵr yr ydym yn cynnig ystod o wasanaethau cefnogi sy’n gallu eich helpu i gyfuno bod yn fyfyriwr/wraig gyda’ch rolau a’ch cyfrifoldebau presennol.

Dewis o raglenni

Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig rhaglenni llawn a rhan-amser mewn ystod o feysydd pwnc yn cynnwys Celf a Dylunio; Busnes; Addysg; Astudiaethau Ieuenctid a Chymuned; Dyniaethau; Theatr a Pherfformio; Cyfrifiadura; Technoleg Cyfathrebu; Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Cyfiawnder Troseddol; Therapïau Cyflenwol; Gwyddoniaeth a’r Amgylchedd; Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer; Amgylchedd Adeiledig a Pheirianneg.

Mae’r cyrsiau ar gael ar nifer o wahanol lefelau yn amrywio o HNC/Ds a graddau sylfaen ac anrhydedd i raddau uwchraddedig, cymwysterau proffesiynol a graddau ymchwil.

Mae hyn yn golygu fod yna rywbeth at ddant pawb, o bobl sy’n gadael coleg o bobl sydd eisiau hybu eu gyrfa neu hyd yn oed newid eu gyrfa yn gyfan gwbl.

Lleoliad

Gallwch wneud popeth o fewn awr a hanner. Wrecsam yw’r dref fwyaf yng Ngogledd Cymru ac fel canolfan economaidd yr ardal y mae’n elwa o gysylltiadau cludiant rhagorol. Y mae’n agos at lawer o’r golygfeydd ysblennydd sydd gan Ogledd Cymru i’w cynnig ac arfordir gwych Gogledd Cymru ac eto y mae’n agos at rai o brif ddinasoedd y DU gan gynnwys Lerpwl a Manceinion.

Mae gan Prifysgol Glyndŵr yr holl gyfleusterau ac yn rhoi’r holl gyfleoedd i chi roi eich gyrfa ar ben ffordd, nid oes ond angen i chi ymweld â’r campws i weld pam fod gymaint o fyfyrwyr yn dweud mai dyma’r dewis iawn!   

* Arolwg Cyrchfan Gadawyr Addysg Uwch 2011.

Sut i wneud cais