|
|
Rhaglenni israddedig llawn-amserUCAS sy’n delio gyda cheisiadau ar gyfer yr holl raglenni israddedig llawn-amser (er enghraifft, BA, BSc, BEng, BN, Graddau Sylfaen). Dylech wneud cais ar-lein yn www.ucas.com. Gallwch ddod o hyd i Prifysgol Glyndŵr naill ai yn ôl enw, neu trwy gôd Sefydliad G53. Os ydych yn gwneud cais trwy ysgol neu goleg, bydd aelod o’ch staff yn eich helpu i lenwi eich ffurflen gais ac yn delio â’r broses, gan gynnwys geirda academaidd. Os ydych yn gwneud cais yn annibynnol, byddwch yn gallu cael cymorth gyda’r broses o wneud cais yn uniongyrchol gyda ni yma yn Prifysgol Glyndŵr. Ffoniwch neu dewch i’n gweld ni os oes angen cymorth neu gyngor arnoch. Fel arall, mae cymorth ar gael gan amryw o fudiadau gyrfaoedd (Connexions, er enghraifft). Dylech anelu i wneud cais i UCAS rhwng y 1af o Fedi a’r 15fed o Ionawr y flwyddyn cyn mynediad. Mae hyn yn rhoi digon o amser i chi ystyried eich dewisiadau, a gwneud penderfyniad pendant yngylch beth yr ydych eisiau ei astudio. Mae Prifysgol Glyndŵr, fodd bynnag, yn fodlon derbyn ceisiadau UCAS ar ôl y 15fed o Ionawr ble mae yna lefydd gwag ond mae yna rai cyrsiau yn eithriadol o boblogaidd ac yn cael eu cau pan fyddant yn llawn. Ar ôl y 15fed o Ionawr, gwiriwch UCAS neu ffoniwch ni i weld a yw’r cwrs y mae gennych chi ddiddordeb ynddo yn dal i dderbyn ceisiadau. Cynghorir yr ymgeiswyr ar gyfer FdA Celf a Dylunio a FdA Dylunio Gardd wneud cais erbyn y 24ain o Fawrth, ond bydd ceisiadau yn dal i gael eu hystyried ar ôl y dyddiad yma, os oes yna lefydd gwag. Noder fod gwneud cais i UCAS ar gyfer mynediad ym mis Medi 2012 yn amodol ar ffi o £11 am ddewis unigol a £22 am ddewisiadau lluosog. Ysgrifennu Datganiad PersonolMae’n debyg mai ysgrifennu Datganiad Personol yw rhan fwyaf brawychus y broses o wneud cais i’r rhan fwyaf o ymgeiswyr. Peidiwch â phoeni – rhowch ddigon o amser i chi’ch hun gynllunio a chwilio am y cyngor sydd ar gael.
Mae UCAS yn darparu clipiau fideo a defnyddiau cynllunio, megis map-meddwl a thaflen waith, ynghyd â mathau eraill o gyngor yma
Mynediad gohiriedigRydym yn fodlon derbyn mynediadau gohiriedig ar y rhan fwyaf o’n cyrsiau. Wrth wneud cais am fynediad gohiriedig, cofiwch fod disgwyl i chi gwrdd â’r gofynion academaidd ar gyfer y cwrs o fewn y cylch UCAS blaenorol. Dylech gadarnhau eich canlyniadau gyda ni trwy anfon copi o’ch canlyniadau/trawsgrifiadau arholiad swyddogol at y Tîm Derbyniadau ac Ymholiadau yn sid@glyndwr.ac.uk cyn gynted ag y byddwch wedi eu derbyn, fel arall rydych mewn perygl o gael eich gwrthod gan UCAS am beidio â chwrdd ag amodau eich cynnig. |
|