Y camau nesaf
- A gaf i ddod i ymweld â’r campws cyn ymroi i astudio yma?
- Ble allaf ddarganfod mwy am astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr?
- A ga'i siarad gyda Chynghorydd Gyrfaoedd?
- A allwch ddweud mwy wrthyf am Brifysgol Glyndŵr a sut i ddod o hyd i chi?
- Sut mae mynd ati i wneud cais?
A gaf i ddod i ymweld â’r campws cyn ymroi i astudio yma?
Wrth gwrs! Yn wir, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dod i ymweld â ni cyn dod i benderfyniad ynghylch astudiaeth bellach. Byddwn yn gallu siarad â chi yn unigol am eich amgylchiadau fel y gallwn gynnig y cyngor gorau i chi’n bersonol. Gallwch holi cwestiynau i ni ynghylch faint y mae’n mynd i’w gostio, sawl awr o astudio y bydd disgwyl i chi ei wneud, ac unrhyw bynciau eraill sy’n dod i’ch meddwl. Mae’n bwysig i ni eich bod yn cael y ffeithiau i gyd cyn i chi benderfynu, ac fe wnawn ein gorau i’ch helpu i ddod i’r penderfyniad cywir.
Rydym yn cynnal dyddiau agored, ble gallwch ddarganfod mwy am Brifysgol Glyndŵr a’r rhaglenni sydd gennym ar gynnig. Byddwch yn cael cyfle i holi unrhyw gwestiynau sydd gennych. Rydym hefyd yn cynnal teithiau o gwmpas y campws, sy’n rhoi cyfle i chi weld y campws a dysgu am ein cyfleusterau.
Mae ein ‘dyddiau profi’ yn rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am yr hyn sydd gan addysg uwch i’w gynnig i chi. Gallwch brofi bywyd myfyriwr am ddiwrnod a holi cwestiynau i ddarganfod a yw’n addas i chi. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn os oes awydd mynd amdani arnoch ond eisiau ychydig mwy o wybodaeth am yr hyn y bydd yn ei olygu.
Cysylltwch â’r Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr am fanylion pellach am unrhyw un o’r digwyddiadau hyn.
Ble allaf ddarganfod mwy am astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr?
Edrychwch ar ein tudalennau gwybodaeth cyrsiau israddedig, ôl-raddedig a phroffesiynol, neu gofynnwch am brosbectws. Bydd y rhain yn rhoi gwybodaeth i chi am gynnwys rhaglenni a chyfleoedd gyrfaol posib a allai fod ar gael i chi ar ôl i chi gwblhau eich rhaglen.
Fel arall, cysylltwch â’r Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr a fydd yn eich rhoi chi mewn cysylltiad â rhywun sy’n gallu siarad â chi am y pynciau sydd o ddiddordeb i chi.
A ga'i siarad gyda Chynghorydd Gyrfaoedd?
Os nad ydych yn siŵr pa gwrs i'w ddewis ac yr hoffech drafod eich opsiynau gyda Chynghorydd Gyrfaoedd, cysylltwch â Chanolfan Yrfaoedd Prifysgol Glyndŵr ar 01978 293240 neu ebostiwch careerscentre@glyndwr.ac.uk. Gweler fwy o wybodaeth am y Ganolfan Yrfaoedd.
A allwch ddweud mwy wrthyf am Brifysgol Glyndŵr a sut i ddod o hyd i chi?
Mae Prifysgol Glyndŵr wedi’i lleoli ar gyrion canol tref Wrecsam yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae diwydiant yn ffynnu yn yr ardal, ac yr ydym yn agos at lan y môr ac at fynyddoedd Eryri. Mae’r cyfyniad trefol a gwledig yn golygu eich bod yn cael y gorau o’r ddau fyd.
Os ydych yn dod mewn car yna mae mae gennym ddigonedd o lefydd parcio am ddim; gallwch hefyd adael eich car yma os am bicio i siopa tra’n ymweld â ni. Mae yna barc manwerthu dros y ffordd, a gellir cerdded i ganol y dref mewn 15 munud.
Os ydych yn dod ar fws neu drên, mae gennym gysylltiadau da gyda gweddill y wlad. Mae Prifysgol Glyndŵr 10 munud ar droed o orsaf fysiau Wrecsam a 5 munud o orsaf reilffordd Gyffredinol Wrecsam. Nid ydym yn bell o feysydd awyr Lerpwl a Manceinion chwaith os ydych yn dod o bell.
Sut mae mynd ati i wneud cais?
Gweler ein gwe-dalennau ynghylch sut i wneud cais, neu os cysylltwch â ni gallwn anfon y ffurflenni angenrheidiol atoch i’w llenwi.
“Roedd mynd i brifysgol yn drobwynt go iawn i mi. Os ydi unrhyw un hyd yn oed yn digwydd sôn eu bod nhw’n ystyried gwneud yr un peth, rydw i’n eu pledu nhw gydag anogaeth eiddgar. Ni ddylai ‘Just do it!’ fod yn hysbyseb ar gyfer rhyw frand chwaraeon rhy ddrud; dylai fod yn alwad i uno myfyrwyr aeddfed ym mhobman. Dydych chi byth yn gwybod beth sydd o fewn eich gallu nes i chi drio.”
