Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Materion ariannol

Faint fydd yn ei gostio?

Mae hyn yn dibynnu ar amryw o bethau, gan gynnwys eich amgylchiadau personol a’r rhaglen a ddewisir gennych. Gallwn eich helpu i ddatrys y rheolau a’r rheoliadau a gweithio allan faint fydd yn ei gostio i chi. Mae yna gymorth ariannol ar gael hefyd; mae hyd yn oed yn bosib y telir eich ffioedd o dan Gynllun Hepgor Ffioedd y Cyngor Cyllido. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd rhaglenni ar ein gwefan, neu cysylltwch â’r Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr pe hoffech siarad gyda rhywun a allai roi gyngor i chi.

A allaf gael unrhyw nawdd ariannol i’m helpu i dalu am fy rhaglen?

Fe allai hyn fod yn bosib, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gall ein gwefan roi gwybodaeth i chi am wahanol fathau o gefnogaeth ariannol, gan gynnwys grantiau, bwrsarïau a benthyciadau. Gallwch hefyd siarad gyda’n tîm Gwasanaethau Myfyrwyr, a all roi cyngor i chi ynghylch pa nawdd ariannol y gallech wneud cais amdano yn eich amgylchiadau arbennig chi. Cysylltwch â’r Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr am fwy o wybodaeth.

A allwch roi unrhyw gyngor neu gymorth i mi gyda fy nghyllid?

Rydym yn cynnig cyngor ynghylch grantiau, benthyciadau, a phob math o fudd-daliadau na wyddech o bosib y gallech eu hawlio. Mae yna ffynonellau amrywiol o gefnogaeth ariannol ar gael, a gallwn eich helpu i ddarganfod am y rhain. Gallwn hefyd gynnig cymorth a chyngor i chi ynghylch sut i wneud y mwyaf o’ch cyllideb os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch gallu fforddio addysg uwch.

A fydd gennyf amser i ychwanegu at fy incwm gyda gwaith rhan-amser?

Rydym yn rhoi blaenoriaeth i helpu ein myfyrwyr i ddod o hyd i waith yn ystod eu hamser yn y brifysgol, os mai dyna maent ei eisiau. Gall ein Siop Swyddi eich helpu i ddod o hyd i waith yn ystod y tymor a/neu yn ystod gwyliau’r haf. Mae hyn yn eich helpu mewn sawl ffordd, gan eich galluogi:

  • i ennill arian ychwanegol;
  • i ddatblygu sgiliau gwaith defnyddiol, os nad ydych yn gweithio’n barod;
  • i ddysgu am rai o’r cwmnïau lleol a chyrff eraill y gallech fod eisiau gweithio iddynt yn y dyfodol.

Cysylltwch â’n Canolfan Yrfaoedd (trwy’r Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr) am fwy o wybodaeth am y Siop Swyddi.

"Mae’r rhwydweithiau cymorth a chefnogaeth sydd mewn grym ym Mhrifysgol  Glyndŵr wedi bod o fudd mawr i mi, fel myfyriwr ac yn awr fel graddedig sy’n cychwyn busnes ymgynghoriaeth dylunio llwyddiannus o fewn Wrecsam.”

Sut i wneud cais