Dychwelyd i astudio
- Nid ydwyf wedi astudio ers blynyddoedd lawer. A oes unrhyw gymorth ar gael gyda dysgu sut i astudio eto?
- A oes yna ddulliau hyblyg o weithio, fel y gall gyd-fynd â gofynion presennol fy mywyd?
- Ar wahân i ddosbarthiadau sy’n rhaid i mi eu mynychu, faint o oriau’r wythnos o astudio fydd angen i mi eu gwneud?
- Oni fyddaf i allan ohoni yn astudio gyda phobl sydd newydd adael ysgol?
- Faint fyddaf yn gallu ei gyfrannu i fywyd campws os byddaf yn mynd adre ar ddiwedd y dydd?
- A fyddaf yn gallu aros mewn llety myfyrwyr?
- Pa gefnogaeth allaf ei disgwyl fel myfyriwr/wraig aeddfed?
Nid ydwyf wedi astudio ers blynyddoedd lawer. A oes unrhyw gymorth ar gael gyda dysgu sut i astudio eto?
Oes, mae gan ein tiwtoriaid brofiad o weithio gyda phobl sydd wedi dychwelyd i astudio ar ôl sbel, felly byddant yn gallu rhoi cefnogaeth i chi. Mae staff yn y Gwasanaeth Llyfrgell hefyd yn rhedeg sesiynau hyfforddi ar sgiliau astudio allweddol fel defnyddio’r llyfrgell, gweithio gyda chyfrifiaduron, ebost, cadw trefn ar ffeiliau a chyfeirnodi. Mae’r rhain yn ffordd ddelfrydol o loywi sgiliau nad ydych wedi eu defnyddio’n ddiweddar o bosib, neu rai sydd yn newydd sbon i chi. Ar gyfer myfyrwyr uwchraddedig rydym yn cynnig rhaglenni mewn dulliau ymchwil i helpu myfyrwyr baratoi ar gyfer traethodau estynedig neu gyflwyno thesis.
A oes yna ddulliau hyblyg o weithio, fel y gall gyd-fynd â gofynion presennol fy mywyd?
Oes, mae yna nifer o ffyrdd y gellir astudio ein rhaglenni; er enghraifft, gellir cymryd llawer ohonynt yn rhan amser. Mae dulliau dysgu ac asesu yn amrywio hefyd, yn dibynnu ar y pwnc a ddewisir gennych. Gallwch ddysgu trwy ddarlithoedd, seminarau a sesiynau ymarferol, a chael eich asesu trwy arholiadau, prosiectau ac aseiniadau ysgrifenedig. Mae trefniadau yn amrywio yn dibynnu ar y rhaglen, felly dylech gysylltu â’r Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr i gael manylion ar gyfer rhaglenni penodol.
Ar wahân i ddosbarthiadau sy’n rhaid i mi eu mynychu, faint o oriau’r wythnos o astudio fydd angen i mi eu gwneud?
Mae hyn yn dibynnu ar y rhaglen a ddewisir gennych. Ar raglenni llawn-amser fel arfer, disgwylir i chi astudio rhywfaint ar eich liwt eich hun trwy ddarllen ac ymchwil, ond mae modd addasu hyn o amgylch ymrwymiadau eraill yn eich bywyd. Mae llawer o fyfyrwyr yn darganfod fod addysg uwch yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd iddynt o ran trefnu eu hamser astudio eu hunain.
Os oes gennych unrhyw bryderon am addasu astudio i’ch bywyd, yna mae croeso i chi ddod i siarad gyda ni. Gall ein tiwtoriaid eich cynghori ynghylch faint o waith sy’n ofynnol a’ch helpu chi i ddod i’r penderfyniad gorau i chi ynghylch sut i fynd i’r afael â’ch gwaith cwrs.
Oni fyddaf i allan ohoni yn astudio gyda phobl sydd newydd adael ysgol?
Na, ddim o gwbl. Mae llawer o’n myfyrwyr yn dod atom pan fyddant yn hŷn, ac yn ffitio i mewn yn dda iawn. Yn wir, mae 54% o’n hisraddedigion llawn-amser dros 21 yn dod yma a 17% dros 40. Felly os ydych fymryn (neu lawer) yn hŷn na gadawyr ysgol arferol, gallwch fod yn dawel eich meddwl nad chi fydd yr unig un.
Mae’r campws yn fach a thaclus, felly mae’n hawdd iawn ymuno a gwneud ffrindiau. Un o’r pethau gwych am hyn yw eich bod yn gallu cymysgu gyda phobl fel chi eich hun yn ogystal â phobl sy’n wahanol – a gall hyn ynddo’i hun fod yn rhan o’ch profiad dysgu.
Faint fyddaf yn gallu ei gyfrannu i fywyd campws os byddaf yn mynd adre ar ddiwedd y dydd?
Gallwch gyfrannu gymaint neu gyn lleied ag y dymunwch. Gan fod y campws yn gyfeillgar ac yn gymharol fach, mae’n hawdd darganfod beth sy’n mynd ymlaen a chyfarfod pobl o’r un anian â chi’ch hun. Cynhelir gweithgareddau yn ystod y dydd yn ogystal â gyda’r nos ac ar benwythnosau, fel bod yna bob amser rywbeth y gallwch gymryd rhan ynddo. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad, boed yn fach neu mawr – mae gan bawb rywbeth i’w gynnig.
Nid oes yn rhaid i chi gymryd rhan yn y gweithgareddau wedi’u cynllunio hyd yn oed. Mae yna fywyd cymdeithasol gwych ar y campws, ac mae pobl yn aml yn cyfarfod am ddiod a sgwrs yn un o’r llefydd niferus y gallwch fynd i ymlacio: y ffreutur, y siop goffi, neu tu allan ar y glaswellt neu’r decing os yw’r tywydd yn braf. Gwnewch bethau yn eich amser eich hun, ac fe ddewch o hyd i ddigonedd o bobl sydd eisiau gwneud yr un peth.
A fyddaf yn gallu aros mewn llety myfyrwyr?
Am gymorth i ddod o hyd i rywle i fyw tra byddwch yn astudio, gall ein gwasanaeth llety roi gwybodaeth i chi am yr hyn sydd ar gael. Cysylltwch â ni trwy’r Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr am fwy o fanylion.
Pa gefnogaeth allaf ei disgwyl fel myfyriwr/wraig aeddfed?
Rydym yn cefnogi ein myfyrwyr mewn modd cyfannol. Beth bynnag fo eich amgylchiadau, gallwn gynnig sawl agwedd ar gymorth myfyrwyr fel gofal iechyd, gofal plant, cyngor gyrfaoedd, gwasanaeth caplan, a chyngor llety. Gall ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn arbennig gynnig help gyda lles, cyngor ariannol, cefnogaeth anabl a chwnsela. Yn ogystal, mae gan Urdd y Myfyrwyr Ganolfan Wybodaeth ac Adnoddau Lles, felly ble bynnag yr ydych ar y campws, mae yna gefnogaeth wrth law.
“Mi wnes i fwynhau fy ngradd. Astudiais yn rhan amser, oedd yn dipyn o her, ond roedd y darlithwyr yn gefnogol iawn. Rydw i’n falch ’mod i wedi profi i mi fy hun ’mod i’n medru’i wneud o. Mae’r hyn a ddysgais yn bendant wedi fy helpu i yn fy swydd.”
