
Cymryd y camau cyntaf
- Beth allaf ei astudio?
- Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?
- Sut fath o gymwysterau mynediad fydd arnaf eu hangen?
- A fyddaf yn cael swydd ar ei ddiwedd?
- Sut all addysg uwch fy helpu i ddatblygu yn fy newis yrfa?
Beth allaf ei astudio?
Rydym yn cynnig cyrsiau israddedig, ôl-raddedig a phroffesiynol mewn sbectrwm eang o bynciau yn amrywio o beirianneg, cyfrifiadura a busnes i gelf a dylunio, dyniaethau ac iechyd. Gallwch astudio’r rhan fwyaf o bynciau ar wahanol lefelau, yn amrywio o ddiplomâu cenedlaethol uwch a graddau sylfaen i raddau anrhydedd ac uwchraddedig. Dilysir ein graddau i gyd gan Brifysgol Cymru, ac mae rhai yn arwain at achrediad proffesiynol yn ogystal.
Rydym yn cydnabod fod yna lawer o yrfaoedd diddorol iawn allan yna, felly rydym yn ceisio darparu rhaglenni sydd yn berthnasol i ddiwydiant er mwyn helpu ein myfyrwyr fynd i’w dewis yrfa. Mae gwefan Prifysgol Glyndŵr yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr am ein rhaglenni i gyd, neu fel arall cysylltwch â’n Desg Gwybodaeth Myfyrwyr (SID) pe hoffech siarad â rhywun.
Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?
Mae hyn yn dibynnu ar y rhaglen a ddewisir gennych. Fel arfer mae graddau sylfaen yn cymryd dwy flynedd yn llawn amser neu dair blynedd yn rhan amser, graddau anrhydedd fel arfer yn cymryd tair blynedd yn llawn amser neu bum mlynedd yn rhan amser a rhaglenni uwchraddedig yn amrywio o flwyddyn yn llawn amser i bum blynedd yn rhan amser. Gallwn siarad â chi am eich anghenion a sut yr hoffech addasu’r rhaglen i’ch bywyd, a cheisio dod o hyd i drefniant sy’n gweddu i chi.
Sut fath o gymwysterau mynediad fydd arnaf eu hangen?
Mae hyn yn dibynnu ar y rhaglen a ddewisir gennych. Yn achos myfyrwyr aeddfed fe allwn gymryd profiad i ystyriaeth yn lle cymwysterau ffurfiol, yn dibynnu ar faint a dyfnder eich gwybodaeth a’ch profiad blaenorol. Ond bydd angen i chi ddangos eich bod yn ymroddedig i’ch dewis bwnc ac yn gallu cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus. Ar gyfer rhai gwobrau uwchraddedig mae yna ofynion mynediad penodol; cysylltwch â ni i holi am arweiniad.
Rydym yn trin ein myfyrwyr i gyd fel unigolion, a bydd eich amgylchiadau personol yn penderfynu beth sydd angen i chi ei wneud er mwyn cofrestru ar eich dewis raglen. Buasem yn argymell eich bod chi’n cysylltu â ni os ydych yn ystyried gwneud cais am raglen, fel y gallwn ddod o hyd i’r ffordd orau o’ch helpu i gyflawni eich amcanion. Bydd y Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr yn eich rhoi chi mewn cysylltiad â’r person cywir.
A fyddaf yn cael swydd ar ei ddiwedd?
Ni allwn warantu y byddwch yn cael swydd, ond gallwn yn sicr anelu i wella eich cyfleoedd os nad ydych mewn cyflogaeth yn barod. Mae ein rhaglenni wedi eu cynllunio i’ch darparu gyda’r sgiliau technegol ac academaidd y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, a gallwn hefyd eich cyflwyno i rai o’r cyflogwyr lleol a allai fod yn bwriadu recriwtio myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr ar ôl iddynt raddio. Mae hwn yn lle da iawn i fod os ydych eisiau cael eich troed yn y drws.
Mae gan ein graddedigion gofnod gwych o gyflogadwyedd. Mewn geiriau eraill, mae nifer enfawr ohonynt yn mynd ymlaen i gael swydd neu ymgymryd ag astudiaeth bellach ar ôl cwblhau eu rhaglenni. Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Cyrchfan Gadawyr Addysg Uwch 2006 yn dangos cyflogadwyedd cyffredinol o 92% i’n myfyrwyr chwe mis ar ôl graddio. Felly trwy ddod yma rydych yn rhoi cyfle da iawn i chi’ch hun o wneud yr un peth.
Sut all addysg uwch fy helpu i ddatblygu yn fy newis yrfa?
Rydym yn cynnig llu o raglenni proffesiynol, i bobl sy’n dymuno datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’w gwaith presennol. Mae ein cysylltiadau â busnes a diwydiant yn rhagorol ac yn cynnig cyfle i’n myfyrwyr ddysgu mewn cyd-destun sy’n briodol i’w gyrfa. Er enghraifft, mae rhai o’n graddau anrhydedd yn galluogi myfyrwyr i wneud cais am aelodaeth o raddau anrhydedd neu gynlluniau aelodaeth. Mae’r cysylltiadau hyn yn golygu fod ein rhaglenni yn adlewyrchu’r datblygiadau ac arferion diweddaraf yn y gweithle, fel y gallwch fod yn sicr fod eich astudiaeth yn gyfredol a chyfamserol.
Os yw eich cyflogwr yn chwilio am hyfforddiant sy’n benodol i’ch amgylchedd gwaith, gallwn gynhyrchu rhaglenni wedi’u haddasu i’ch anghenion. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau ymchwil ac ymgynghoriaeth fel y gallwch wneud defnydd o arbenigedd ein staff er mwyn eich helpu i ddatblygu eich busnes. Felly cofiwch gysylltu pe hoffech ddarganfod mwy; gall y Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr eich rhoi chi mewn cysylltiad â’r bobl berthnasol o fewn y Brifysgol.
“Mae fy rhaglen ym Mhrifysgol Glyndŵr yn fy narparu gydag addysg sydd o fudd ymarferol, o ddydd i ddydd, yn ogystal â fy helpu i gael gyrfa dda ar ôl i mi orffen.”



