
Gofynion mynediad
Mae’r gofynion mynediad a roddir ochr yn ochr â’r disgrifiadau rhaglen yn cael eu rhoi fel arweiniad cyffredinol i’r lefel o gynigion sy’n cael eu gwneud.
Dymunwn bwysleisio fod pob ymgeisydd yn cael eu hystyried yn unigol a bod ysgogiad ac ymroddiad yn cael eu hystyried ynghyd â gofynion academaidd.
Dylai pob ymgeisydd allu dangos eu gallu i gwblhau eu dewis raglen yn llwyddiannus. Nid yw cwrdd â’r gofynion mynediad isaf posibl neu nodweddiadol ar gyfer cwrs yn sicrhau lle ar y cwrs hwnnw.
- Gofynion mynediad i israddedigion
- Gofynion mynediad uwchraddedig
- Graddau ymchwil
- Gwiriadau Swyddfa Cofnodion Troseddol
- Achredu Dysgu a Phrofiad Blaenorol
- Cynllun Casglu a Throsglwyddo Credyd (CATS)
Gofynion mynediad i israddedigion
Gweler manylion cyrsiau unigol am ofynion mynediad penodol. Mae ein gofynion mynediad yn amrywio o 120 pwynt UCAS yn lefel-A neu gyfatebol ar gyfer graddau sylfaen i dros 240 ar gyfer graddau Baglor. Bydd cymwysterau Lefel UG a Sgiliau Allweddol Lefel 3 priodol yn cael eu cymryd i ystyriaeth hefyd. Mae’n bosib y bydd gofyn am ofynion eraill hefyd, megis GDG neu gyfnod yn gweithio mewn amgylchedd penodol.
Gellir gweld pwyntiau Tariff UCAS yn: http://www.ucas.ac.uk/students/ucas_tariff/tarifftables/
Gofynion mynediad uwchraddedig
Yr amod mynediad arferol ar gyfer rhaglenni uwchraddedig yw gradd gydnabyddedig.
Mae hyn fel arfer yn golygu ei bod o leiaf yn cyfateb i radd anrhydedd ail-ddosbarth dda mewn pwnc perthnasol.
Gweler manylion rhaglenni unigol am ofynion mynediad penodol.
Graddau ymchwil
Gweler ein tudalennau gwe Swyddfa Uwchraddedig am fwy o wybodaeth am ofynion mynediad ar gyfer graddau ymchwil.
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) (y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt)
Ble nodir hynny yn y prosbectws neu trwy’r wefan i gyd, fe allai rhaglenni / cyrsiau penodol olygu ymwneud rheolaidd â phlant a/neu oedolion sy’n agored i niwed, a elwir hefyd yn weithgareddau rheoledig. Ble bo hyn yn wir, bydd galw cyfreithiol ar fyfyrwyr i gael gwiriad GDG. Bydd y Brifysgol yn anfon cyfarwyddiadau pellach ynglŷn a chael gwiriad GDG fel rhan o’r broses dderbyn.
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: cyflwyniad
Y Swyddfa'r Ysgol Astudiaethau Israddedig, a Swyddfa'r Ysgol i Raddedigion, sy'n gyfrifol am gynnal gwiriadau GDG Mae'n rhaid i chi gwblhau'r ffurflen GDG mewn person yn y swyddfa ysgol berthnasol, ni chaniateir i chi fynd â’r ffurflenni o'r swyddfa i'w llenwi gan fod pob ffurflen wedi'u rhifo a'u tracio.
Mae gwiriad GDG uwch (y bydd arnoch ei angen) yn costio £44 ar hyn o bryd. Mae’n rhaid talu o flaen llaw, naill ai ar-lein neu i’r Swyddfa Arian (Coridor B – Campws Plas Coch). Gellir gwneud taliadau ar-lein trwy:
Mae’r cais UCAS a’r Ffurflen Gais Mynediad Uniongyrchol yn gofyn i chi ddatgan os oes gennych gollfarn droseddol “berthnasol”. Mae “perthnasol” yn golygu unrhyw drosedd sy’n ymwneud ag unrhyw fath o drais, drwgweithredoedd sy’n ymwneud â’r bwriad i niweidio neu sy’n arwain at niwed corfforol gwirioneddol, cyflenwi sylweddau neu gyffuriau rheoledig yn anghyfreithlon neu ble mae’r gollfarn yn ymwneud â delio neu fasnachu cyffuriau masnachol, collfarnau yn ymwneud â gynnau, llosgi bwriadol neu’r rheiny a restrir yn Neddf Troseddau Rhyw 2003 neu Ddeddf Terfysgaeth 2006.
Ni ystyrir collfarnau sydd wedi darfod (yn ôl diffiniad Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974) yn berthnasol. Mae rhai proffesiynau neu alwedigaethau sy’n ymwneud â gwaith gyda phlant neu oedolion sy’n agored i niwed wedi’u heithrio o’r Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974).
Os ydych yn gwneud cais am gwrs ble bo angen GDG (gwiriwch y gofynion mynediad ar gyfer y cwrs), dylech ddewis “Do” os ydych wedi cael eich collfarnu erioed, hyd yn oed os ydyw wedi darfod.
Am fanylion pellach gweler y wybodaeth a ddangosir am y rhaglen / cwrs yma neu cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ac Ymholiadau ar 01978 293439.
Achredu Dysgu a Phrofiad Blaenorol
Os ydych yn gallu arddangos gwybodaeth a phrofiad priodol yn eich dewis bwnc, fe allech fod yn gymwys i gael eich eithrio o rannau o’r rhaglen.
Am fwy o wybodaeth a chyngor cysylltwch â Swyddfa Dderbyniadau:
Rhif ffôn: 01978 293439
Rhif ffacs: 01978 290008
Ebost: enquiries@glyndwr.ac.uk
Cynllun Casglu a Throsglwyddo Credyd (CATS)
Os ydych wedi ymgymryd â chwrs addysg uwch o’r blaen ac wedi derbyn credydau am fodiwlau (unedau) a gwblhawyd yn rhywle arall, mae’n bosib y gallwch drosglwyddo i raglen yn NEWI ar lefel briodol.
Am fwy o wybodaeth a chyngor cysylltwch â Swyddfa Dderbyniadau:
- Ebost: enquiries@glyndwr.ac.uk
- Ffôn: 01978 293439
- Testunwch "Glyndwr" i 81025
- Ffacs: 01978 290008



