|
Rhydych chi yma:
Hafan > Sut i wneud cais > Eich dyfodol chi eich ffordd chi > Cyrsiau Hyblyg ar Eich Cyfer Chi
|
||
|
|
Cyrsiau Hyblyg ar Eich Cyfer Chi
Nid ar gyfer myfyrwyr lefel-A peniog yn unig y mae graddau. Mae yna lawer o lwybrau y gallwch eu cymryd i addysg uwch. Yma ym Mhrifysgol Glyndŵr, rydym wedi cynyddu’r ystod o gyrsiau sydd ar gynnig – o fodiwlau bychain i astudiaeth lawn amser. Mae hyn yn golygu y gallwch astudio ar lefel a chyflymdra sy’n addas i chi. Mynediad i AUOs gwnaethoch adael ysgol heb ddim neu ychydig o gymwysterau, neu os ydych wedi bod yn gweithio am sbel, bydd y cwrs Mynediad i Addysg Uwch yn eich paratoi ar gyfer astudio mewn prifysgol. Gallwch astudio yn eich coleg lleol naill ai yn llawn amser (blwyddyn) neu’n rhan-amser (dwy flynedd). Mae’r cwrs yn cwmpasu ystod o bynciau, ac ar ôl eu cwblhau byddwch yn cael y credydau sydd eu hangen i fynd ymlaen i wneud cwrs gradd. Cyrsiau ProffesiynolGan ganolbwyntio ar hybu eich rhagolygon gyrfaol, mae’r rhain yn gymwysterau a gydnabyddir gan ddiwydiant a ddatblygwyd gyda chyrff fel CIM, ILM a NEBOSH. Yn ddelfrydol ar gyfer cyflogwyr a chyflogedigion fel ei gilydd, ceir cyfle i gymhwyso dysgu yn y gweithle. Mae yna opsiynau i astudio ar y campws neu yn eich coleg lleol, yn dibynnu ar eich dewis gwrs. Modiwlau UnigolA hoffech brofi prifysgol heb ymroi i wneud gradd? Erbyn hyn rydym yn cynnig llawer o’r modiwlau sy’n ffurfio gradd lawn fel cyrsiau unigol. Gyda phynciau fel Sgiliau Cyflwyno, Marchnata a Chyd-destun Busnes ar gynnig, maent yn ffordd dda o hybu eich sgiliau tra’n ennill credydau tuag at radd. Graddau SylfaenOs ydych eisiau gwella eich rhagolygon gyrfaol, dychwelyd i waith neu newid swydd, gall Gradd Sylfaen eich helpu i wneud hynny. Yn wahanol i radd anrhydedd, dim ond 120 pwynt sydd arnoch eu hangen i gael eich derbyn – sy’n cyfateb i un lefel-A. Ac er bod cyflogwyr yn ei gydnabod fel cymhwyster unigol, fe ellir ei drosi yn radd anrhydedd. Gwneir hyn trwy ‘atodi’ mewn blwyddyn (neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny yn rhan-amser) ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Addysg i OedolionMae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig addysg i oedolion mewn partneriaeth â chyrff lleol yn yr ardal. Wedi’u cynllunio i wella mynediad i addysg uwch, cysylltwch â’n tîm recriwtio myfyrwyr am fwy o wybodaeth. |
|