Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Chwalu mythau ynglŷn ag addysg uwch

Mythbuster with pic welsh

Rhy ddrud? Nid ar gyfer pobl gyffredin? Heb fod yn berthnasol i’r byd go-iawn?

Mae yna lawer o fythau am addysg uwch. Mae’n hawdd cael eich drysu gan yr holl wybodaeth a safbwyntiau sy’n bodoli, ond beth yw’r gwirionedd?

Byddwn yn edrych ar y gwir tu ôl i rai o’r camdybiaethau cyffredin ynglŷn ag astudio ar lefel brifysgol, a sut yr ydym ni ym Mhrifysgol Glyndŵr yn gweithio’n gyson i chwalu rhwystrau a allai atal pobl rhag cyflawni eu llawn botensial. 

Er mwyn gwneud cwrs gradd, bydd angen i mi gael o leiaf tair lefel-A gyda graddau da

Er mai’r nifer safonol yw tua 220 pwynt ar gyfer gradd, dim ond 120 pwynt sy’n ofynnol ar gyfer gradd sylfaen ym Mhrifysgol Glyndŵr. Mae hyn yn cyfateb i ddim ond un lefel-A. Mae’n bosib hefyd y gellir cyfrif profiad gwaith tuag at eich pwyntiau.

Gadewais ysgol yn syth ar ôl gorffen TGAU i ddechrau gweithio. Erbyn hyn, hoffwn hybu fy ngyrfa trwy gael gwell addysg, ond dwi’n meddwl ei bod yn rhy hwyr

Gall profiad yn y gweithle hefyd gael ei gyfrif fel pwyntiau os ydych yn dymuno gwneud cwrs addysg uwch. Mae llawer o fyfyrwyr Glyndŵr wedi gweithio am sawl blwyddyn neu wedi gadael ysgol yn 16. Mae yna nifer o lwybrau iddynt eu cymryd ar gwrs gradd megis cymhwyster Mynediad i AU.

Buaswn wrth fy modd yn gwella fy rhagolygon gyrfaol ond nid oes amser gennyf i astudio ar gyfer gradd. Rwyf yn gweithio 9-5 ac mae gennyf deulu i edrych ar ei ôl

Nid oes angen i chi astudio yn llawn amser i gael gradd. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch astudio o gwmpas eich ymrwymiadau gwaith a phersonol. Yn ogystal â rhaglenni Dysgu-Seiliedig-ar-Waith a chymwysterau rhan-amser, gallwch astudio cyrsiau byrion, sy’n cynnig Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer cwmnïau.

Mae ein cyrsiau gradd i gyd yn cynnwys modiwlau. Gallwch wneud y rhain yn unigol erbyn hyn heb ymrwymo iddynt i gyd. Gyda modiwlau yn cael eu cyflenwi gyda’r nos ac yn amrywio rhwng 6-12 wythnos o ran hyd, mae’r rhain yn fwy hwylus i’ch amserlen a’ch cyllideb.

Ni allwn fforddio mynd i Brifysgol. Mae graddau ar gyfer pobl gyda rhieni cefnog neu sydd wedi cynilo er mwyn mynd i addysg uwch

Mae’n bwysig i Brifysgol Glyndŵr a Llywodraeth Cymru fod addysg uwch yn agored i bawb. Dyna pam fod yna nawdd ariannol ar gael os ydych yn dod o gymdogaeth ddifreintiedig.

Rydym hefyd wedi cyflwyno mwy o hyblygrwydd yn y modd yr ydych yn cael eich cymhwyster terfynol. Gallwch astudio gyda’r nos, yn y gweithle ac yn rhan-amser. Mae hyn yn golygu y gallwch barhau i ennill tra’n dysgu.

Mae Prifysgol ar gyfer myfyrwyr ifanc, breintiedig. Ni fydd yna bobl fel fi yno

Mae gan Brifysgol Glyndŵr boblogaeth myfyrwyr eithriadol o amrywiol. Yn ogystal ag israddedigion llawn amser, mae yna lawer iawn o fyfyrwyr aeddfed sydd yn dychwelyd i fyd addysg, yn dal i weithio neu’n astudio yn rhan-amser.   

Daw tua traean o’n myfyrwyr astudiaeth israddedig o golegau partnerol. Gallai hyn fod trwy raddau Sylfaen, Mynediad i AU, HNC neu gyrsiau gradd hyd yn oed. Mae hyn yn golygu y ceir amrywiaeth ehangach o brofiadau bywyd yn y dosbarthiadau – sydd, yn ôl ein myfyrwyr, yn gwneud dysg yn fwy gwerthfawr fyth. 

Prin y gallaf fynd o gwmpas y dref yn fy nghadair olwyn, heb sôn am fynd i Brifysgol i astudio ar gyfer gradd

Ym Mhrifysgol Glyndŵr, mae gennym y niferoedd uchaf o fyfyrwyr sy’n hawlio Lwfans Myfyrwyr Anabl yng Nghymru, yn ogystal â Chanolfan Astudiaethau Anabledd. 

Rydym yn cynnig llu o wasanaethau fel bod myfyrwyr ag anableddau yn rhagori yn y brifysgol. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaeth cynghori, offer addasadwy a gluniadur i helpu gyda’ch astudiaethau. Rydym hyd yn oed yn cynghori cyrff rhanbarthol ynglŷn â’r ffordd orau i gefnogi pobl gydag anableddau. Felly, fel y gellwch ddychmygu, mae ein campws ni yn hygyrch dros ben!

Byddai’n wych aros ar y campws, ond ble fuaswn i’n aros yn ystod y gwyliau?

Os ydych wedi gadael gofal yn ddiweddar, byddwch yn gymwys i aros mewn llety ar y campws gydol y flwyddyn. Ym Mhrifysgol Glyndŵr, dyfarnwyd marc Ymddiriedolaeth Frank Buttle i ni am ein cefnogaeth i adawyr gofal. Mae hyn yn golygu cefnogaeth ychwanegol yn eich astudiaethau yn ogystal â chyngor am nawdd ariannol, grantiau a bwrsarïau ychwanegol.

Nid yw Prifysgolion yn gwybod beth sy’n digwydd yn y byd tu allan. Mae llawer o’u cyrsiau yn amherthnasol i’r hyn sy’n digwydd yn y gweithle heddiw

Ym Mhrifysgol Glyndŵr, rydym yn ymfalchïo yn ein perthynas gref gyda chyrff lleol, cenedlaethol a byd-eang. Yn ogystal â llunio cymwysterau ar y cyd â’r rhain, rydym wedi datblygu rhai i gydfynd ag anghenion eu gweithlu. Mae’r rhain yn cynnwys graddau Sylfaen newydd ar gyfer UPM ac United Utilities a rhaglen Brentisiaeth Airbus mewn partneriaeth â Choleg Glannau Dyfrdwy.

Rydym hefyd yn cydweithio’n agos gyda chwmnïau fel Cadburys a Kelloggs i gynnig cyrsiau sy’n cefnogi eu rhaglenni datblygu gweithlu.

Mae diwydiant a sgiliau yn esblygu’n gyflym. Beth fyddai Prifysgol yn ei wybod am ddatblygu cymwysterau yn unol â’r rhain?

Ym Mhrifysgol Glyndŵr, rydym yn gweithio gyda chyrff proffesiynol rhanbarthol a Chynghorau Sgiliau Sector i sicrhau fod ein cymwysterau yn berthnasol ac yn werthfawr i gyflogwyr a chyflogedigion fel ei gilydd. Mae’r cysylltiadau hyn yn golygu y gallwn barhau i arloesi o ran llunio a chyflenwi cyrsiau.

Mae gennym raddau Sylfaen newydd cyffrous yn cwmpasu Technoleg Greadigol a Chyfryngau Digidol, Technoleg a Chynnal a Chadw Cerbydau Hybrid a Rheolaeth a Hamdden Awyr Agored. Hefyd, ceir ystod o gyrsiau Dysgu-Seiliedig-ar-Waith, sy’n cymryd i ystyriaeth esblygiad y Diwydiannau Garddwriaeth a Hamdden.

Sut i wneud cais