Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Chi’n ymweld â ni

Chi’n ymweld â ni

Mae croeso i fyfyrwyr ysgolion a cholegau ymweld â Phrifysgol Glyndŵr unrhyw adeg, ble gallant gael ymdeimlad o addysg uwch.

Rydym yn cynnig dyddiau profi, teithiau o amgylch y campws, sgyrsiau pwnc ac amrywiaeth o wasanaethau eraill. Darllenwch ymlaen am fwy o wybodaeth.

Dyddiau profi

Bydd ymweliad â Phrifysgol Glyndŵr yn galluogi pobl ifanc i:

  • ddatblygu eu hymwybyddiaeth o amgylchedd addysg uwch
  • gwella eu dealltwriaeth o’r cyrsiau sydd ar gynnig mewn addysg uwch
  • holi cwestiynau am gyfleusterau myfyrwyr, sgiliau astudio, cefnogaeth ar gyfer anghenion ychwanegol, lwfans myfyrwyr anabl, ysgoloriaethau a bwrsarïau
  • cynyddu ysgogiad myfyrwyr
  • cael profiad ymarferol o gyrsiau a chyfleusterau, er enghraifft Gwyddoniaeth Fforensig, Recordio Stiwdio, Theatr a Pherfformio a Chwaraeon

Sgyrsiau pwnc

Mae gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gael mewn ystod eang o feysydd pwnc, gan gynnwys:

  • Cyfryngau, Celfyddydau Perfformiadol a Hyrwyddiadau
  • Addysg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gwaith Cymunedol
  • Arloesi, Gwyddoniaeth, Technoleg a Pheirianneg
  • Busnes a Menter
  • Celf, Dylunio a Thechnolegau Creadigol
  • Chwaraeon a Chymdeithas

Gwasanaethau eraill

Os gallwn helpu mewn unrhyw ffordd arall, dim ond gofyn sy’n rhaid i chi – rydym bob amser yn falch o ddatblygu gweithgareddau newydd i gwrdd â’ch gofynion penodol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu un o’r digwyddiadau hyn neu pe hoffech drefnu ymweliad, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01978 293069 neu ebost recruitment@glyndwr.ac.uk

Mae croeso i adawyr gofal sy’n dymuno siarad am y gwasanaethau a gynigir gan Brifysgol Glyndŵr ffonio Bev Mottram-Roper, Cynghorydd Myfyrwyr a Swyddog Arweiniad ar 01978 293453 neu ebost b.mottramroper@glyndwr.ac.uk

Gadawyr gofal
Mae croeso i adawyr gofal sy’n dymuno siarad am y gwasanaethau a gynigir gan Brifysgol Glyndŵr ffonio Bev Mottram-Roper, Cynghorydd Myfyrwyr a Swyddog Arweiniad, ar 01978 293453 neu ebostio b.mottramroper@glyndwr.ac.uk
Sut i wneud cais