|
|
Cydlynu rhwng ysgolion a cholegau
Ym Mhrifysgol Glyndŵr credwn mai darparu gwybodaeth gyfredol yw’r allwedd i gynnal cysylltiadau iach gydag ysgolion, colegau a gwasanaethau gyrfaoedd. Mae athrawon ysgol a chynghorwyr yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu arweiniad i ddisgyblion sy’n ystyried addysg uwch. Rydym yn hoffi meddwl ein bod yn adeiladu ar hyn ym Mhrifysgol Glyndŵr trwy annog myfyrwyr a helpu i lyfnhau’r llwybr i addysg uwch. Mae staff arbenigol ar gael i roi cyngor ac arweiniad diduedd, hygyrch a pherthnasol, am ddim i grwpiau o fyfyrwyr, athrawon a rhieni am:
Beth allwn ni ei gynnig?
“Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig gwasanaeth rhagorol sy’n werthfawr iawn i fyfyrwyr” Viv Morgan, pennaeth y chweched dosbarth yn Ysgol John Bright, Llandudno “Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig sylw manwl cyson a chyngor cyfredol, deallus. Mae ei chefnogaeth i fyfyrwyr unigol trwy gydol eu dwy flynedd yn y chweched dosbarth gyda ni wedi bod o gymorth mawr i’r ysgol roi’r hyder i fyfyrwyr lwyddo.” Sue England, pennaeth y chweched dosbarth yn Ysgol y Maelor School, Penley |
|