|
|
Ar ôl i chi wneud caisUnwaith i chi gyflwyno eich cais naill ai trwy UCAS neu’n uniongyrchol i NEWI, byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi yn uniongyrchol. Ar gyfer rhaglenni penodol fel Addysg, Nyrsio a Gwaith Cymdeithasol, mae cyfweliadau yn orfodol. Mae’r rhan fwyaf o raglenni, fodd bynnag, yn cynnig cyfle i gael gyfweliad anffurfiol cyn gwneud cynnig. Bydd rhaglenni Celf a Dylunio yn galw am gyflwyno portffolio tra bydd Theatr, Teledu a Pherfformio yn galw am glyweliad. Yn achos ymgeiswyr UCAS bydd pob cynnig yn cael ei wneud trwy UCAS. Fe allant fod yn ddiamod neu’n amodol ar ganlyniadau arholiadau academaidd ac, mewn rhai achosion, ar gael profiad mewn lleoliad sy’n gysylltiedig â’r rhaglen. Bydd y rhaglenni sy’n ymwneud â gwaith gyda phobl ifanc neu oedolion sy’n agored i niwed yn gofyn am gael eu clirio gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol. Mae cyfarwyddiadau ynghylch sut i ddethol a derbyn cynigion ar gael ar wefan UCAS. Byddwch yn gallu edrych ar statws cyfredol eich cais trwy wasanaeth trywydd UCAS ar-lein. UCAS ExtraMae Extra yn rhedeg o ddiwedd Chwefror hyd at y cyfnod Clirio ac yn caniatáu i ymgeiswyr sydd wedi defnyddio eu pum dewis i gyd ac wedi bod yn aflwyddiannus neu wedi gwrthod eich cynigion i wneud cais am gwrs. Dilynwch drywydd eich cais trwy Tracio UCAS i weld a ydych yn gymwys. Mae manylion pellach am Extra ar gael ar wefan UCAS. ClirioMae Clirio yn wasanaeth sy’n rhedeg rhwng canol Gorffennaf a Medi er mwyn galluogi ymgeiswyr i geisio cael lle mewn prifysgol. Dim ond cyrsiau gyda llefydd gwag fydd ar agor i dderbyn ceisiadau. Gweler UCAS am fanylion pellach. |
|