Head divider

Swît Gwyddoniaeth Fforensig

Mae myfyrwyr israddedig o Beth yw Seicoleg 1 yn defnyddio’r ystafell fforensig yn Semester 1 i ddysgu am dystiolaeth llygad-dystion ffug yn elfen atgofion y modiwl. Eir â’r myfyrwyr i leoliad trosedd mewn tŷ wedi ei leoli ar y campws ble maent yn cael amser i archwilio’r dystiolaeth. Ar ôl hynny, gofynnir cwestiynau iddynt ar wahân yn yr ystafell ddosbarth ynghylch beth maen nhw’n ei feddwl wnaeth ddigwydd yno ac yna gofynnir cwestiynau penodol am leoliad y trosedd. Swît Gwyddoniaeth Fforensig Swît Gwyddoniaeth Fforensig
Darganfyddwyd fod holi rhai mathau o gwestiynau yn gallu peri i bobl lurgunio’r darlun o’r hyn y maent yn meddwl y gwnaethont ei weld, sydd wedyn yn cael ei adlewyrchu yn yr atebion a roddir ganddynt. Mae’r seminar yma yn ystyried oblygiadau’r atebion hyn mewn tystiolaethau llygad-dystion a’r modd y gellid holi’r cwestiynau hyn mewn llys barn neu i dystion hawdd eu niweidio fel plant, er mwyn cael adroddiad mwy cadarnhaol a realistig o’r hyn ddigwyddodd.
Swît Gwyddoniaeth Fforensig Swît Gwyddoniaeth Fforensig
Mae hyn, mae’n ymddangos, am ein bod yn ceisio ffitio digwyddiadau o’r gorffennol i’n darluniadau presennol o’r byd, gan wneud yr atgof yn un mwy trefnus neu er mwyn gwneud mwy o synnwyr ohono. Gan hynny, ni yw ein hatgofion eu hunain yn adlewyrchiadau manwl gywir o’r hyn ddigwyddodd. Defnyddiodd arbrawf clasurol gan Loftus a Palmer (1974) glipiau fideo o ddamweiniau ceir gan ddangos y gallai rhywbeth mor syml â newid berf y frawddeg (pa mor gyflym oedd y ceir yn mynd pan wnaethon nhw grashio i mewn i’w gilydd neu pan wnaethon nhw daro i mewn i’w gilydd) lurgunio a dylanwadu ar atgof cyfranogwyr o’r digwyddiad.